Dr Dafydd Roberts

Dr Dafydd Roberts

Sywddog Datblygu Ymchwil

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Manylion Cyswllt

Proffil

Dyddiad ymuno a swydd flaenorol

Ymunodd Dafydd ag YBA yn 2011. Cyn hynny bu'n gweithio i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys.

Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol

Ar ôl cwblhau ei PhD gwnaeth Dafydd gais llwyddiannus am brosiect a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’i ddatblygu, a arweiniodd at waith pellach ym maes datblygu cymunedol. Yn fwyaf diweddar bu Dafydd yn gweithio i Gelfyddydau Gwirfoddol Cymru a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys fel swyddog ariannu. Mae ei brofiad wedi bod yn darparu cymorth ariannol, hyfforddiant a datblygiad cymunedol ar gyfer grwpiau sector gwirfoddol ar draws Powys. Datblygodd fforwm Menter Gymdeithasol Powys a rhaglen fentora. Mae wedi rheoli llawer o brosiectau a ariannwyd ar gyfer grwpiau sector gwirfoddol ym Mhowys gan gynnwys prosiectau celfyddydau cymunedol, cynlluniau menter gymdeithasol, a darparu cymorth ariannol a hyfforddiant i grwpiau.

Addysg a phrofiad gwaith

Ar ôl ei PhD bu Dafydd yn darlithio yn yr adran Saesneg ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan cyn gweithio yn y Gofrestrfa Academaidd ac yna datblygu ei brosiectau ei hun wedi’i ariannu gan y celfyddydau a symud i weithio fel swyddog datblygu celfyddydau cymunedol. Datblygodd brosiectau ymgysylltu cymunedol ac ymgynghoriadau a sefydlodd ee Fforwm Adfywio Talgarth ger y Gelli Gandryll. Enillodd Dafydd arian a arweiniodd at drawsnewid ac adnewyddu Melin Talgarth i ymgorffori cynllun ynni dŵr micro a chafodd sylw ar BBC1 Village SOS (Ariennir gan y Loteri).

Profiad a gwybodaeth

Mae gan Dafydd brofiad eang o ddatblygu cynigion o fewn a thu allan i'r byd academaidd ac o helpu eraill i ennill cyllid a datblygu prosiectau menter gymdeithasol. Mae wedi ennill cyllid ar gyfer ei brosiectau celfyddydau cymunedol gan Sefydliad Sasakawa Prydain Fawr, Cyngor Celfyddydau Cymru, PRSF, Tŷ Cerdd a Sefydliad Japaneaidd Daiwa Anglo.

Prif gyfrifoldebau o fewn YBA

Mae Dafydd yn Swyddog Datblygu Ymchwil i Gyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ei gyfrifoldebau presennol yw darparu cymorth ymchwil i academyddion ac ymchwilwyr yng Nghyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol, darparu cymorth i staff academaidd wrth ddatblygu, llunio a pharatoi cynigion grant ymchwil, monitro ffynonellau cyllid, nodi cyfleoedd ymchwil newydd a’u hyrwyddo’n rhagweithiol.

Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae Dafydd yn mwynhau helpu academyddion i wireddu eu breuddwydion.