130. F. Gweldolen Rees (FRS)
Yr Athro Joanne Hamilton

Gwendolen Rees

Ganed Gwendolen Rees yn Abercynon ar y 3ydd o Orffennaf 1906, a bu’n gweithio yn Adran Sŵoleg Aberystwyth o 1930 hyd 1973, ond parhaodd yn weithgar yn ei maes ymchwil fel Athro Emeritws mewn parasitoleg hyd yr 1980au.

Canolbwyntiodd ei hymchwil ar helmintholeg, gan gynnwys cylchoedd bywyd parasitiaid trematod a cestod a'u perthynas â'u gwesteiwyr canolradd anfertebrataidd.

O ganlyniad, Gwendolen Rees oedd y Gymraes gyntaf i ddod yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol.

Roedd hi hefyd yn Gymrawd o'r Sefydliad Bioleg, yn un o sylfaenwyr y Gymdeithas Barasitoleg Brydeinig ac yn Llywydd arni (1972 – 1974) a dyfarnwyd y Fedal Linnean iddi ym 1990.

Dechreuodd hanes hir Aberystwyth o ymchwil i barasitoleg. yn parhau i fod yn faes o ragoriaeth ymchwil hyd heddiw.

History of Parasitology at Aberystwyth

Mwy o wybodaeth

Yr Athro Joanne Hamilton

Adran Academaidd

Adran Gwyddorau Bywyd

Nesaf
Blaenorol