137. Plismona Troseddau Fferm a Chefn Gwlad: Hysbysu Strategaeth yr Heddlu, dyrannu adnoddau a rheoli newid wrth fynd i'r afael â throseddau fferm a gwledig
Dr Wyn Morris
Mae ymchwil gan Ysgol Busnes Aberystwyth wedi cael effaith fawr ar adnoddau a phlismona ffermydd, busnesau fferm, cymunedau gwledig ac unigolion o fewn ardal Heddlu Dyfed-Powys.
Roedd diffyg gwelededd yr heddlu, adnoddau a darpariaeth cyfrwng Cymraeg gyfyngedig wedi arwain at deimladau o unigedd a bregusrwydd yn y cymunedau hyn.
Comisiynwyd yr ymchwil gan Heddlu Dyfed-Powys, a rhoddwyd argymhellion ar adnoddau a strategaethau ar waith drwy Strategaeth Troseddau Gwledig 2017-2021 a newidiodd brosesau a gwasanaethau o ganlyniad.
Gwelir canlyniadau allweddol fel gwell ymddiriedaeth, cyfathrebu a pherthnasoedd rhwng cymunedau a'r heddlu.
Newyddion: Lansio arolwg troseddau gwledig cyntaf Cymru gyfan a gynhelir gan Brifysgol Aberystwyth
Mwy o wybodaeth
Dr Wyn Morris