135. Tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg? Polisi a chynllunio iaith yng Nghymru
Dr Elin Royles, Dr Huw Lewis, Dr Catrin Wyn Edwards
Gan adlewyrchu arwyddocâd gwleidyddol cynyddol amrywiaeth ddiwylliannol, mae ymyriadau polisi cyhoeddus sy’n anelu at wella rhagolygon ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol wedi dod yn fwyfwy amlwg mewn sawl rhan o’r byd.
Mae ymchwil diweddar gan Dr Huw Lewis, Dr Elin Royles a Dr Catrin Edwards yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth wedi canolbwyntio ar ddadansoddi’r gwahanol ddulliau o adfywio iaith sydd wedi’u mabwysiadu gan lywodraethau is-wladwriaethol ar draws Ewrop a Gogledd America.
Yn seiliedig ar yr ymchwil hwn, rhwng Awst 2016 a Gorffennaf 2017, bu modd iddynt lywio a dylanwadu ar y drafodaeth bolisi a gyfrannodd at baratoi strategaeth iaith genedlaethol uchelgeisiol Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017.
Mwy o wybodaeth
Dr Elin Royles
Dr Huw Lewis
Dr Catrin Wyn Edwards
- E-bost: cwe6@aber.ac.uk
- Proffil Staff - Dr Catrin Wyn Edwards
- Proffil Porth Ymchwil - Dr Catrin Wyn Edwards