Strwythur
Cliciwch ar y diagram uchod i'w ehangu.
Mae'r Tîm Datblygu Ymchwil yn cynorthwyo ymchwilwyr gyda phob agwedd ar ddatblygu ceisiadau am gyllid ymchwil - nodi ffynonellau cyllid, dod o hyd i bartneriaid, dehongli canllawiau cyllidwyr, cyngor ar strwythuro a chostio cynigion. Mae'r tîm hefyd yn darparu gwasanaethau cymorth a chyngor ar gyfer moeseg ac uniondeb ymchwil ar draws y Brifysgol.
Cysylltwch â: rdostaff@aber.ac.uk
Mae nifer o staff YBA yn cefnogi datblygu grantiau busnes, gan gynnwys hwyluso ariannu, cydweithio a chyfnewid gwybodaeth gyda busnes; cefnogi gwaith rhanbarthol a phartneriaeth; a chynghori ar ddiogelu a masnacheiddio ymchwil.
Cysylltwch â: busnes@aber.ac.uk
Contractau, Masnachol a Pholisïau
Mae'r Tîm Contractau, Masnachol a Pholisïau yn adolygu, negodi a gweithredu cytundebau sy'n ymwneud ag ymchwil a chyfnewid gwybodaeth. Mae'r rhain yn cynnwys cytundebau cydweithio, cytundebau trosglwyddo deunydd, cytundebau cyfrinachedd a rheoli ymgynghoriaeth academaidd. Rydym hefyd yn cynghori ar bolisïau ymgynghoriaeth y brifysgol ac eiddo deallusol ac yn gweithredu’r ddau is-gwmni cyfnewid gwybodaeth, Aber Business Consultancy Ltd ac Aber Trading Ltd.
Cysylltwch â: cytundebau@aber.ac.uk
Rheoli Prosiect a Sicrhau Ansawdd
Mae'r Tîm Rheoli Prosiect a Sicrhau Ansawdd yn darparu sicrwydd ansawdd a rheolaeth prosiect, o fonitro a chymorth ôl-ddyfarniad, arweiniad ac arfer gorau i Weithrediadau a Ariennir yn Strwythurol, i gyflawni prosiectau yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol y Strategaeth CAYC (Cyllid Arloesi Ymchwil Cymru).
Cysylltwch â: postaward@aber.ac.uk
Mae Tîm FfRhY a Monitro Ymchwil yn darparu adroddiadau a rheolaeth o wybodaeth ymchwil er mwyn hybu datblygiad ymchwil rhagorol sy’n cael effaith.
Cysylltwch â: ymchwil@aber.ac.uk