Mrs Sarah Ling

Mrs Sarah Ling

Rheolwr Swyddfa

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Manylion Cyswllt

Proffil

Dyddiad ymuno a swydd flaenorol

Mae Sarah yn rheoli'r swyddogaeth cymorth gweithredol o fewn yr adran, gan weithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr a'r Tîm Rheoli. Mae Sarah yn gyfrifol am weithredu ystod o brosesau a systemau busnes a gwybodaeth ac mae ganddi gyfrifoldeb i sicrhau gwasanaeth gweinyddol cynhwysfawr, effeithiol ac effeithlon i gefnogi YBA.

Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol

Fel uwch swyddog olrhain, roedd Sarah yn gyfrifol am gysylltu â staff amlasiantaethol ar gyfer olrhain a rheoli achosion covid blaenoriaeth uchel, megis pobl agored i niwed a phobl oedrannus. Roedd gan Sarah gyfrifoldeb goruchwylio am weithrediad llwyddiannus tîm o swyddogion o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod yr holl ryngweithio a chyngor a roddir i'r cyhoedd yn unol â deddfwriaeth gyfredol. Byddai Sarah yn goruchwylio swyddogaeth bob dydd y gronfa ddata CRM, gan gadw cofnodion yn gyfredol, ac adrodd i uwch reolwyr.

Addysg a phrofiad gwaith

Astudiodd Sarah i lefel gradd yn y Celfyddydau Graffig yn Abertawe ac mae ganddi ddeng mlynedd o brofiad mewn rheoli eiddo.

Profiad a gwybodaeth

Mae Sarah yn dod â llawer o brofiad o weithio i ddeddfwriaeth, rheoleiddio, a pholisïau ochr yn ochr â gwaith amlasiantaethol. Mae ganddi sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol ers deuddeg mlynedd o weithio yn y sector cyhoeddus.

Prif gyfrifoldebau o fewn YBA

Mae Sarah yn rheoli'r swyddogaeth cymorth gweithredol o fewn yr adran, gan weithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr a'r Tîm Rheoli. Mae Sarah yn gyfrifol am weithredu ystod o brosesau a systemau busnes a gwybodaeth ac mae ganddi gyfrifoldeb i sicrhau gwasanaeth gweinyddol cynhwysfawr, effeithiol ac effeithlon i gefnogi YBA.

Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae Sarah wir yn mwynhau gweithio gyda llawer o adrannau gwahanol a dysgu am brosiectau newydd a chyffrous.