Mrs Samantha Daniel-Dowden
Cynorthwyydd Gweinyddol
Manylion Cyswllt
- Ebost: sad61@aber.ac.uk
- Swyddfa: 12 Cefn Llan, Parc Gwyddoniaeth
- Ffôn: +44 (0) 1970 621585
Proffil
Sam yw’r Cynorthwyydd Gweinyddol ac mae’n rhan o dîm sy’n bwynt cyswllt cyntaf yn swyddfa YBA. Mae Sam yn rhoi cymorth i’r adran ar draws ystod o swyddogaethau e.e. ymateb i ymholiadau cyffredinol, cefnogi ymweliadau allanol â'n hadran, trefnu digwyddiadau, rheoli dyddiaduron ac ystafell gyfarfod, prosesu treuliau a chodi archebion prynu. Mae Sam yn gyfrifol am weinyddu cyllid mewnol adrannol ac mae'n darparu cymorth gyda thaliadau patent ac ABC Limited ac anfonebu.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Sam wedi byw a gweithio yn Aberystwyth eriod, enillodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Penglais a threuliwyd ei haddysg uwch yng Ngholeg Ceredigion lle cafodd AVCE mewn Astudiaethau Busnes. Cyn defnyddio'r cymhwyster hwn i sicrhau swydd mewn cymdeithas adeiladu genedlaethol yn syth o coleg, treuliodd dros ddeng mlynedd yn y pen draw yn gweithio yn y sector ariannol, lle cafodd brofiad ym mhob agwedd ar y diwydiant bancio gan gynnwys morgais ac yswiriannau.
Cyn ymuno â'r Brifysgol roedd hi'n cael ei chyflogi gan asiantaeth ystadau leol fel Negodwr Gwerthu, sydd wedi rhoi mewnwelediad defnyddiol i'r farchnad dai leol.