Miss Phoebe Crumpton

Miss Phoebe Crumpton

Cynorthwyydd Derbynfa

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Manylion Cyswllt

Proffil

Dyddiad ymuno a swydd flaenorol

Ymunodd Phoebe ag RBI ddiwedd Mehefin 2023. Cyn hynny, bu’n gweithio yn Tesco yn Aberystwyth a Banc Santander.

Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol

O fewn Tesco, roedd Phoebe yn gyfrifol am wirio ansawdd stoc a chynorthwyo cwsmeriaid gyda'u siopa. Yn Santander, bu’n gweithio ar y ddesg flaen, yn helpu cwsmeriaid gyda’u holl drafodion a darparu gwybodaeth ar sut i ddefnyddio pob sianel ar-lein.

Addysg a phrofiad gwaith

Addysgwyd Phoebe yng Ngogledd Cymru ac yna enillodd radd BSc mewn Mathemateg o Brifysgol Aberystwyth, gan raddio yn 2021. Cyn gweithio yn Aberystwyth, bu’r rhan fwyaf o’i swyddi yn ymwneud â lletygarwch neu wasanaeth cwsmeriaid ym maes manwerthu.

Profiad a gwybodaeth

Ar ôl gweithio mewn llawer o rolau sy'n wynebu cwsmeriaid, mae Phoebe wedi dod yn gyfarwydd â delio â phob math o bobl ac wedi dysgu addasu i sefyllfaoedd sy'n newid yn barhaus. Mae ei rolau blaenorol hefyd wedi caniatáu iddi ddatblygu sgiliau rheoli amser a threfnu cryf.

Prif gyfrifoldebau o fewn YBA

Fel Cynorthwyydd Derbynfa, Phoebe yw'r pwynt cyswllt cyntaf yn swyddfa YBA. Mae’n darparu cefnogaeth i’r adran ar draws ystod o swyddogaethau, gan gynnwys ymateb i ymholiadau cyffredinol, cefnogi ymweliadau allanol â’n hadran, trefnu digwyddiadau, rheoli dyddiaduron ac ystafell gyfarfod, prosesu treuliau, a chynnal a monitro cyflenwadau swyddfa.

Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae Phoebe yn mwynhau dod i adnabod yr holl wahanol bobl a phrosiectau sy'n ymwneud ag YBA, a gallu helpu gyda threfnu'r cyfan o ddydd i ddydd.