Miss Lisa Fisher
Proffil
Dyddiad ymuno a swydd flaenorol
Ymunodd Lisa ag YBA ym mis Gorffennaf 2019 a chyn hynny bu’n gweithio yn y Swyddfa Ryngwladol, yr Adran Gyfrifiadureg, a’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol
Yn y Swyddfa Ryngwladol, Lisa oedd yn gyfrifol am ddigwyddiadau myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn, sefydlu, a chroesawu glasfyfyrwyr. Cynigiodd gymorth a chyngor i fyfyrwyr. Bu hefyd yn cefnogi'r adran gyda gweithgareddau recriwtio a datblygu rhyngwladol. Yn yr Adran Gyfrifiadureg, ei rôl oedd Swyddog Cyswllt Ysgolion ar gyfer prosiect allgymorth.
Addysg a phrofiad gwaith
Mae cefndir Lisa yn y Gyfraith, cyn gweithio i'r Brifysgol bu'n Baragyfreithiol i sawl cwmni Cyfreithiwr lleol. Roedd hi'n gweithio'n bennaf o fewn trawsgludo a chyfraith teulu.
Profiad a gwybodaeth
Mae gan Lisa brofiad o ddarllen a dehongli dogfennaeth gymhleth sy'n ddefnyddiol iawn ar gyfer ei rôl bresennol. Mae hi'n gallu esbonio gwybodaeth gymhleth mewn fformat symlach ac mae ganddi sylw cryf i fanylion. Mae hi wedi arfer gweithio mewn amgylcheddau cyflym i derfynau amser tynn.
Prif gyfrifoldebau o fewn YBA
Mae prif gyfrifoldebau Lisa yn cynnwys darparu cyngor, arweiniad a hyfforddiant i staff a myfyrwyr ar draws y Brifysgol ar foeseg ymchwil ac uniondeb i sicrhau bod ymchwil yn cael ei chynnal yn unol â fframweithiau moesegol, cyfreithiol a phroffesiynol priodol.
Y rhan fwyaf pleserus o gyflogaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae Lisa'n mwynhau ei rôl bresennol, mae'r llwyth gwaith yn amrywiol ac mae heriau newydd a phethau i'w dysgu bob amser. Mae'r swydd yn ddiddorol iawn iddi.