Dr Jennifer Wolowic

Proffil
Dyddiad ymuno a swydd flaenorol
16 Ionawr, 2023 o Brifysgol Simon Fraser yn Vancouver, Canada.
Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol
Yn ystod ei chyfnod yng Nghanolfan Ddeialog SFU Morris J. Wosk, mae hi wedi dyrchafu dulliau gwerthuso ymchwil y Ganolfan ac wedi trefnu cydweithrediadau newydd ac wedi sefydlu prosiect i ddiwygio gwrandawiadau cyhoeddus yn BC. Mae hi hefyd wedi pwysleisio strategaeth gyfathrebu sy'n canoli diwylliant a gwerthoedd democrataidd fel modd i ailgysylltu pob dinesydd â'u democratiaeth; gan ddechrau gyda llywodraeth leol.
Addysg a phrofiad gwaith
Mae Dr Wolowic yn anthropolegydd ac ethnograffydd gyda dros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda grwpiau amrywiol, gan gynnwys lleiafrifoedd gweladwy, Cenhedloedd Cyntaf, LHDTC, ac ieuenctid. Mae ganddi PhD o Brifysgol British Columbia mewn Astudiaethau Rhyngddisgyblaethol ac mae ganddi brofiad mewn gwneud ffilmiau dogfen, ymchwil iechyd poblogaeth LHDTC, diwygio'r gyfraith, ac ymchwil gymhwysol ar gyfer gwelliannau polisi.
Profiad a gwybodaeth
Daw Dr Wolowic â phrofiad mewn deialog, hwyluso ac ethnograffeg i Brifysgol Aberystwyth ac ymdrechion cyfnewid gwybodaeth YBA.
Prif gyfrifoldebau o fewn YBA
Fel Prif Arweinydd y Ganolfan Ddeialog, mae Dr Wolowic yn gyfrifol am gyflawni strategaeth weithredol y ganolfan ac am sicrhau bod yr holl weithgareddau’n gyson â gweledigaeth a strategaeth Prifysgol Aberystwyth ar gyfer ymchwil ac arloesi, cyfnewid gwybodaeth ac ymgysylltu allanol. Bydd y Ganolfan Ddeialog yn cysylltu gwahanol gymunedau â gwybodaeth o ansawdd uchel, gan hwyluso sgyrsiau a gwasanaethau sy'n hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth newydd, a datblygu gwasanaethau gwell sy'n effeithio'n gadarnhaol ar ein dyfodol cyffredin.
Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae Dr Wolowic wrth ei bodd â'r amrywiaeth o wybodaeth, arbenigedd a phrofiadau y mae'n eu cael ym Mhrifysgol Aberystwyth.