Hannah Payne

Rheolwr Monitro Ymchwil a’r FfRhY
Manylion Cyswllt
- Ebost: hep@aber.ac.uk
- ORCID: 0000-0002-1721-7412
- Swyddfa: 12 Cefn Llan, Parc Gwyddoniaeth
- Proffil Porth Ymchwil
Proffil
Dyddiad ymuno a swydd flaenorol
Ymunodd Hannah â’r Swyddfa Ymchwil fel Swyddog Monitro Ymchwil ym mis Ebrill 2011, gyda’r prif gyfrifoldeb o weinyddu a pharatoi cyflwyniad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) y Brifysgol. Ymunodd Hannah â Phrifysgol Aberystwyth yn 2005, gan weithio cyn hynny yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth ac o fewn y Gwasanaethau Gwybodaeth ar nifer o brosiectau ystorfa a ariannwyd gan JISC.
Addysg a phrofiad gwaith
Mae gan Hannah MSc (Econ) Rheoli Gwybodaeth.
Prif gyfrifoldebau o fewn YBA
Hannah sy'n rheoli cyflwyniad y Brifysgol i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF). Hi sy'n rheoli swyddogaeth Monitro Ymchwil YBA, gan gynnwys Ymarfer Monitro Ymchwil chwe-misol mewnol y Brifysgol. Mae hi'n hyrwyddo ac yn rheoli system gwybodaeth ymchwil gyfredol PURE. Mae hi'n arwain ar ddatblygiad ac ymarfer effaith a chyfnewid gwybodaeth, mynediad agored a pholisïau rheoli data ymchwil.
Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae Hannah yn mwynhau gweithio gyda chydweithwyr.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Rheoli swyddogaeth Monitro Ymchwil yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi.
- Rheoli cyflwyniad y Brifysgol i Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2020.
- Gweinyddu Ymarfer Monitro Ymchwil chwe-misol mewnol y Brifysgol
- Hyrwyddo a rheoli system gwybodaeth ymchwil cyfredol y Brifysgol, PURE.
- Arwain gwaith i ddatblygu ac ymarfer polisïau rheoli ar gyfer mynediad agored a data ymchwil.