Ms Helena O Sullivan

Ms Helena O Sullivan

Swyddog Datblygu Busnes

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Manylion Cyswllt

Proffil

Dyddiad ymuno a swydd flaenorol

Ymunodd Helena ag YBA ym mis Mehefin 2022, cyn hynny bu’n gweithio i Iechyd a Gofal Gwledig Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.

Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol

Gweithiodd Helena fel Swyddog Datblygu ar gyfer Gofal Gwledig a Gofal Iechyd Cymru gyda’r cyfrifoldeb o sicrhau datblygiad a choladu ymchwil o ansawdd uchel sy’n berthnasol i iechyd a lles gwledig. Cyn y swydd hon bu Helena yn Bennaeth Gwerthiant gyda Chyngor Llyfrau Cymru gyda’r prif gyfrifoldeb o sicrhau uchafu gwerthiant a phroffil llyfrau o Gymru.

Addysg a phrofiad gwaith

Mae gan Helena MA mewn Hanes Modern o Brifysgol Genedlaethol Iwerddon, Maynooth. Mae Helena hefyd wedi dysgu siarad Cymraeg yn rhugl.

Profiad a gwybodaeth

Mae gan Helena wybodaeth helaeth am ddelio ag amrywiaeth o randdeiliaid ar draws sbectrwm eang, yn amrywio o’r Academaidd, Masnachol, Gofal Iechyd, Awdurdod Lleol a’r Trydydd Sector ac mae’n ymwybodol iawn bod llwyddiant yn cael ei gyflawni trwy brosiectau cydweithredol o ansawdd da gyda chyfathrebu effeithiol.

Prif gyfrifoldebau o fewn YBA

Mae prif gyfrifoldebau Helena yn cynnwys rhoi cymorth i academyddion Prifysgol Aberystwyth ymgysylltu â busnesau a sefydliadau y tu allan i’r Brifysgol i chwilio am gyfleoedd ar gyfer prosiectau cydweithredol.

Y rhan fwyaf pleserus o gyflogaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth

Y rhan o'r gyflogaeth sy'n rhoi'r mwynhad mwyaf yw bod pob un prosiect Datblygu Busnes yn unigryw a bod ystod mor eang o brosiectau.