Miss Linda Cook

Miss Linda Cook

Swyddog Datblygu Grantiau

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Manylion Cyswllt

Proffil

Dyddiad ymuno a swydd flaenorol

Ymunodd Linda ag YBA ym mis Tachwedd 2012. Cyn hynny bu’n gweithio i Eaga Partnership, cwmni a oedd yn gweinyddu rhaglenni Lleihau Carbon a Thlodi Tanwydd Llywodraeth Cymru, o'r enw HEES a NEST ledled Cymru, a chyn hynny bu'n gweithio i gwmni ynni SWALEC am 12 mlynedd, gan weithio ym maes Marchnata Ynni a Effeithlonrwydd Ynni.

Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol

Rheolodd Linda y gwaith o gyflawni rhaglenni Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am y gadwyn gyflewni a chontractwyr, yn ogystal ag adrodd ar y Weithdrefn Asesu Safonol - (SAP), sef dull a ddiffiniwyd gan y llywodraeth o asesu effeithlonrwydd ynni. Adroddodd ar nifer y cartrefi ac arbedion SAP a gyflawnwyd a deliodd ag ymholiadau cwsmeriaid, cwynion ac ymholiadau'r Senedd.

Addysg a phrofiad gwaith

Mynychodd Linda Brifysgol Caerdydd ac mae ganddi radd BA Anrhydedd a Diploma mewn Gweinyddu Busnes yn ogystal â chymhwyster Iechyd a Diogelwch NEBOSH. Bu’n gweithio i SWALEC, yn gweithio yn Sioe Frenhinol Cymru am 10 mlynedd ac yna’n gweithio yn eu hadran effeithlonrwydd ynni gan sicrhau bod rhwymedigaethau eu trwydded yn cael eu cyflawni.

Profiad a gwybodaeth

Mae gan Linda wybodaeth helaeth am weithio ar brosiectau mawr, gweithio i derfynau amser, sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion gorfodol a rheoliadol. Mae hi wedi gweithio gyda gwahanol ddiwydiannau a sefydliadau i gyrraedd targedau.

Yn fwy diweddar mae wedi gweithio ar brosiectau FP7 yr UE, prosiectau a ariennir yn strwythurol, ERDF ac ESF. Rheolodd Linda bob agwedd ar KESS (Ysgoloriaeth Sgiliau'r Economi Wybodaeth) a oedd yn cynnwys ceisiadau am brosiectau ymchwil, paratoi contractau ar gyfer cwmnïau allanol a myfyrwyr, a chyflawni prosiectau ymchwil.

Prif gyfrifoldebau o fewn YBA

Mae Linda yn cefnogi academyddion gyda'u ceisiadau grant ar gyfer cyllid Horizon Europe, yn trefnu cymrodoriaethau Marie Curie a cheisiadau rhwydweithiau Doethurol ac yn rheoli cronfeydd cymorth teithio Taith.

Y rhan fwyaf pleserus o gyflogaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae Linda’n mwynhau gweithio gydag academyddion, cwmnïau allanol, a myfyrwyr, sy’n rhoi amrywiaeth i’r diwrnod gwaith. Mae hi hefyd yn mwynhau dysgu sgiliau newydd.