Miss Ffion Lewis

Miss Ffion Lewis

Cynorthwyydd Gweinyddol Ymchwil

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Manylion Cyswllt

Proffil

Dyddiad ymuno a swydd flaenorol

Ymunodd Ffion ag YBA ym mis Mawrth 2022. Cyn hynny bu’n gweithio ym Mhractis Deintyddol Eastgate fel Nyrs Ddeintyddol.

Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol

Cyfrifoldebau Ffion oedd cynorthwyo’r deintydd ac ymarferwyr deintyddol eraill cyn, yn ystod ac ar ôl ymgynghoriadau a thriniaethau cleifion (cadw nodiadau diwyd yng nghofnodion cleifion yn ystod ymgynghoriadau a thriniaethau, gan sicrhau bod y cyflenwadau a’r deunyddiau cywir ar gael i bob gweithiwr deintyddol proffesiynol). Bu hefyd yn helpu gyda thasgau gweinyddol wrth weithio ar ddesg y dderbynfa, gan gynnal perthnasoedd iach rhwng y practis a'i gwsmeriaid.

Addysg a phrofiad gwaith

Cwblhaodd Ffion ei harholiadau TGAU a Lefelau A yn Ysgol Uwchradd Tregaron a gorffen ysgol yn 2014. Ers hynny mae hi wedi gweithio mewn nifer o rolau gwahanol o weithio ym maes lletygarwch, manwerthu a gofal iechyd cyn cael ei lle yn YBA.

Profiad a gwybodaeth

O’i rolau blaenorol mae wedi datblygu nifer o sgiliau sy’n ei gwneud yn ased i’r brifysgol. Ar ôl gweithio mewn amgylchedd lletygarwch cyflym mae hi wedi datblygu sgiliau rheoli amser a threfnu cryf. Mae ei chefndir mewn manwerthu wedi dysgu iddi sut i ddelio â phob math o unigolion, mae wedi ei throi’n gymeriad cyfeillgar a rhwydd sy’n cyd-dynnu â phawb. Yn olaf, arweiniodd ei phrofiad blaenorol o weithio fel nyrs ddeintyddol/derbynnydd at godi ei hymwybyddiaeth o bwysigrwydd sylw i fanylion. Yr holl sgiliau y mae hi wedi'u trosglwyddo'n llwyddiannus i'r rôl yn YBA.

Prif gyfrifoldebau o fewn YBA

Prif gyfrifoldebau Ffion o fewn YBA yw darparu cefnogaeth weinyddol a dyletswyddau CP i holl faterion RWIF. Mae hi'n gyfrifol am reolaeth weinyddol y RWIF o ddydd i ddydd. Mae hi'n cydlynu trefniadau ac yn cymryd cofnodion mewn pwyllgorau a chyfarfodydd gwaith. Mae hi'n rheoli ac yn goruchwylio trafodion ariannol ac adroddiadau sy'n gysylltiedig â RWIF.

Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Y rhan o'i swydd y mae'n ei mwynhau fwyaf yw ochr drefniadol pethau, yn enwedig pan fydd popeth yn disgyn i'w le ac yn rhedeg yn esmwyth. Mae hi hefyd wrth ei bodd ag ethos y brifysgol ac yn mwynhau gweithio gyda holl unigolion yn YBA.