Mr Edwin Geuter
Proffil
Dyddiad ymuno a swydd flaenorol
Ymunodd Edwin ag YBA ym mis Ebrill 2023 o Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi, lle roedd yn Uwch Swyddog Gweithrediadau Arfordirol.
Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol
Yn rôl Edwin ar gyfer Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi, bu’n rheoli ac yn hyfforddi timau chwilio ac achub gwirfoddol ar draws Gogledd a Gorllewin Cymru ac ymatebodd i ddigwyddiadau ar yr arfordir. Roedd yn hyfforddwr mewn achub clogwyni, mwd a dŵr ac roedd yn gyfrifol am bob agwedd ar recriwtio, hyfforddi, rheoli ystadau a rheoli offer.
Addysg a phrofiad gwaith
Magwyd Edwin yn Aberystwyth cyn gwasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol am 18 mlynedd. Roedd ei yrfa filwrol yn canolbwyntio ar weithrediadau, hyfforddiant ac ymateb i argyfwng, yn ogystal â rheoli portffolio o raglenni caffael ac ymchwil. Astudiodd gyda’r Brifysgol Agored, gan ganolbwyntio ar arweinyddiaeth a rheolaeth ac ymgymryd â’r y rhan fwyaf o'i astudiaethau tra’n gweithio ar weithrediadau milwrol, ac Ysgol Fusnes Henley, lle cwblhaodd MBA fel rhan o’i bontio o Luoedd Ei Mawrhydi. Bu hefyd yn gweithio fel rhan o'r tîm gweithredol ar gyfer ymgynghoriaeth risg a gwydnwch bwtîc cyn dod o hyd i gyfle i ddychwelyd i Aberystwyth.
Profiad a gwybodaeth
Rheoli gweithrediadau a darparu hyfforddiant mewn amgylcheddau tymheredd uchel a risg uchel. Rheoli portffolio o raglenni caffael ac ymchwil ar raddfa fawr a chymhleth. Datblygu gwytnwch sefydliadol ac unigol, gwaith tîm ac arweinyddiaeth.
Prif gyfrifoldebau o fewn YBA
Rheoli portffolio o brosiectau i ysgogi rhagoriaeth mewn ymchwil, arloesi a chyfnewid gwybodaeth.
Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth
Gweithio gydag arbenigwyr i ddod o hyd i atebion arloesol i broblemau heriol, yn enwedig lle gall wneud cyfraniad diriaethol i'w gymuned.