Elizabeth Rowlands

 Elizabeth Rowlands

Swyddog Prosiect

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Manylion Cyswllt

Proffil

Dyddiad ymuno a swydd flaenorol

Ymunodd Elizabeth ag YBA ym mis Medi 2023. Cyn hynny, bu’n gweithio yn adran IBERS Prifysgol Aberystwyth fel y prif Dderbynnydd o 2012 ac yna ymlaen i Weinyddwr y Storfeydd o 2018.

Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol

Fel Gweinyddwr y Storfeydd, Elizabeth oedd yn gyfrifol am redeg y storfeydd o ddydd i ddydd ac am ystod eang o dasgau gweinyddol a oedd yn cynnwys prosesu holl anfonebau IBERS, cadw cofnodion yn ymwneud â danfoniadau, derbynebau, ac anfon nwyddau peryglus. Roedd hi hefyd yn archebu nwyddau gan gynnwys nwyddau traul, cemegau, toddyddion a nwyddau darfodus.

Addysg a phrofiad gwaith

Magwyd Elizabeth yn Swydd Amwythig, yna symudodd i Aberystwyth yn ei harddegau hwyr lle gorffennodd ei haddysg ysgol. Yna enillodd gymwysterau amrywiol, a arweiniodd at weithio yn y Sector Gwasanaeth am nifer o flynyddoedd, yna aeth ymlaen i Asesydd a Dysgu addysg alwedigaethol a rhedeg ei busnes ei hun.

Profiad a gwybodaeth

Mae gwybodaeth a phrofiad Elizabeth o’i rolau blaenorol wedi rhoi’r gallu iddi ddangos sgiliau cyfathrebu, cymorth cwsmeriaid a threfnu rhagorol a chael gwybodaeth o ddarparu cymorth gweinyddol cynhwysfawr ar brosiectau ymchwil WEFO ac Innovate UK, sgiliau sy’n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer gweithio o fewn y Tîm Datblygu Ymchwil.

Prif gyfrifoldebau o fewn YBA

Mae Elizabeth yn gyfrifol am ddarparu cymorth i'r Tîm Datblygu Ymchwil. Mae hyn yn cynnwys gweithio'n agos gyda holl bileri'r adran YBA, ymchwilwyr, a'r Tîm Cyllid Ymchwil, gan ddarparu gwasanaeth rhagweithiol i gasglu a choladu gwybodaeth berthnasol i sicrhau bod cynigion yn cael eu prosesu'n brydlon ac yn gywir. Prosesu a chofnodi cynigion ariannu a dyfarniadau ar System Rheoli Ymchwil y Brifysgol (Worktribe), y system Rheoli Perthynas â Chwsmeriaid (MS Dynamics) a system gyllid y Brifysgol (Pobl Aber) ac yn cefnogi ymholiadau ymchwilwyr sy’n ymwneud â defnyddio’r systemau hyn.

Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae Elizabeth yn mwynhau ei rôl newydd, y llwyth gwaith amrywiol a diddorol a’r heriau newydd a’r pethau i’w dysgu. Bod yn rhan o dîm cefnogol o fewn YBA.