Mr Daniel Hopton

Proffil
Dyddiad ymuno a swydd flaenorol
Ionawr 2024, ar ôl gweithio i Minerva Hearing Protection fel cynorthwyydd Technegol.
Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol
Rôl Daniel oedd defnyddio meddalwedd amrywiol i ddylunio, ac argraffu 3D chymhorthion clyw ac amddiffynwyr clyw.
Addysg a phrofiad gwaith
Mae gan Daniel BSc mewn Dylunio Cynnyrch o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd (Anrhydedd Dosbarth Cyntaf). Mae ganddo brofiad o gynllunio a chynnal arddangosfeydd trwy ei rôl fel Cynrychiolydd Sioe Radd yn ei flwyddyn olaf yn y brifysgol. Mae Daniel hefyd yn rhan o brosiect o'r enw Y Blwch Democrataidd, lle mae’n helpu i addysgu Cymry ifanc am ddemocratiaeth trwy'r cyfryngau cymdeithasol a digwyddiadau byw.
Profiad a gwybodaeth
Mae gan Daniel wybodaeth am egwyddorion ddylunio cynnyrch a graffeg, defnyddio meddalwedd dylunio amrywiol, cynllunio a rhedeg digwyddiadau, cyfathrebu mewnol ac allanol.
Prif gyfrifoldebau o fewn YBA
Fel Swyddog Cyfathrebu Ymchwil a Dylunio Graffeg, mae rôl Daniel yn cynnwys gweithio ar draws nifer o dimau i godi ymwybyddiaeth o Ymchwil ac Arloesi o safon fyd-eang y Brifysgol.
Y rhan fwyaf pleserus o gyflogaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae Daniel yn mwynhau dysgu am y gwahanol brosiectau sy’n digwydd o fewn timau ymchwil y Brifysgol a hyrwyddo eu llwyddiannus.