Charlotte James

 Charlotte James

Swyddog Contractau

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Manylion Cyswllt

Proffil

Dyddiad ymuno a swydd flaenorol

Ymunodd Charlotte ag YBA ym mis Rhagfyr 2021. Cyn hynny, bu’n gweithio fel Cydlynydd AD yn adran Adnoddau Dynol Prifysgol Aberystwyth.

Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol

Fel y Cydlynydd AD, Charlotte oedd yn gyfrifol am ddrafftio cytundebau cyflogaeth ar gyfer aelodau o staff ar draws y Brifysgol. Bu hefyd yn cynorthwyo gyda recriwtio'r Brifysgol ac yn rhoi arweiniad ar fisa'r DU ac ymholiadau mewnfudo.

Addysg a phrofiad gwaith

Tyfodd Charlotte i fyny yng nghanolbarth Lloegr ac ar ôl gadael yr ysgol yn 17 oed, symudodd i Aberystwyth, lle dechreuodd ar yrfa lwyddiannus mewn rheolaeth manwerthu, dros gyfnod o fwy na 17 mlynedd. Teimlai Charlotte ei bod yn gallu gwneud defnydd da o’r sgiliau rheoli pobl yr oedd wedi’u datblygu ym maes anwerthu trwy weithio ym maes AD, ac ar ôl sefydlu ei hun yn llwyddiannus fel aelod amlwg a dymunol o staff yn y Brifysgol, penderfynodd wneud cais am rôl o fewn YBA.

Profiad a gwybodaeth

Mae profiad blaenorol Charlotte wedi rhoi’r gallu iddi ddangos sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, sgiliau sy’n arbennig o ddefnyddiol wrth weithio mewn amgylchedd cyflym a deinamig.

Prif gyfrifoldebau o fewn YBA

Mae Charlotte yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth proffesiynol wrth ddrafftio, negodi ac adolygu contractau sy'n ymwneud ag ymchwil, ar draws y Brifysgol. Mae hyn yn golygu gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol a chysylltu ag amrywiaeth o unigolion ar draws gwahanol sefydliadau.

Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae Charlotte yn mwynhau dysgu am yr ystod amrywiol o brosiectau y mae aelodau staff academaidd ar draws y Brifysgol yn ymgymryd â nhw. Mae Charlotte hefyd yn mwynhau darllen am ymchwil newydd a chyffrous sy’n digwydd ar draws y sefydliad, ac mae’n gwerthfawrogi’n arbennig y gallu i gynorthwyo aelodau academaidd o’r staff i sicrhau prosiectau a allai gael effaith gadarnhaol ar eu llwyddiant nhw, a llwyddiant y Brifysgol, yn y dyfodol.