Mr Carwyn Williams

Mr Carwyn Williams

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Ymchwil

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Manylion Cyswllt

Proffil

Dyddiad ymuno a swydd flaenorol

Ymunodd Carwyn ag YBA ym mis Gorffennaf 2022, ar ôl gweithio i Gyngor Sir Ceredigion fel Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu Gweithwyr.

Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol

Rôl Carwyn oedd cyflawni gweithgareddau recriwtio ac ymgysylltu â gweithwyr. Prif gyfrifoldebau Carwyn oedd defnyddio’r system CRM i ddiweddaru ceisiadau ymgeiswyr, defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth, paratoi cylchlythyrau ar y system CMS, a diweddaru cynnwys y wefan.

Addysg a phrofiad gwaith

Mae gan Carwyn BSc mewn Rheoli Busnes ac MSc mewn Marchnata Strategol o Brifysgol Abertawe. Mae Carwyn wedi gweithio mewn rolau marchnata a chyfathrebu i Gyngor Sir Ceredigion, Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, Discovery Abertawe, a Reval Continuing Care.

Profiad a gwybodaeth

Mae gan Carwyn brofiad a gwybodaeth mewn Cyfathrebu Marchnata, Cyfathrebu Mewnol ac Allanol, Marchnata Digidol, Marchnata Strategol, a defnyddio systemau CRM/CMS.

Prif gyfrifoldebau o fewn YBA

Fel Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Ymchwil, mae rôl Carwyn yn cynnwys gweithio ar draws nifer o dimau i godi ymwybyddiaeth o Ymchwil ac Arloesi o safon fyd-eang y Brifysgol.

Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae Carwyn yn mwynhau gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol a chyfathrebu llwyddiannau Ymchwil ac Arloesi y Brifysgol.