Andrew Dolloway
Proffil
Dyddiad ymuno a swydd flaenorol
Ymunodd Andrew ag YBA ym mis Ionawr 2022. Cyn hynny bu’n gweithio yn y Tîm Recriwtio a Datblygu Rhyngwladol.
Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol
Prif gyfrifoldebau Andrew oedd Marchnata Digidol (Datblygu Gwefan, Gweminarau, Hysbysebu Ar-lein/Rheoli Proffiliau, Ysgrifennu Copi), Cymorth Gweinyddol (Cyfarfod a Chyfarch Rhyngwladol - Gweithrediadau, Adnewyddu Contract/Contractau Newydd gydag Asiantau Rhyngwladol, marsiandïo), Gwerthu (Croesawu Ymweliadau Rhyngwladol, Trefnu Teithiau), a Gweithrediadau (Trefnu Teithio Rhyngwladol ar gyfer Staff Academaidd a Staff Gwasanaeth).
Addysg a phrofiad gwaith
Graddiodd Andrew o Brifysgol Aberystwyth yn 2010, gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Ar ôl graddio, bu’n gweithio am 6 blynedd yn y sector preifat, fel gweithiwr marchnata proffesiynol i Pugh Computers Ltd, BBaCh trwyddedu meddalwedd a thechnoleg.
Profiad a gwybodaeth
Mae gan Andrew brofiad mewn Marchnata, Datblygu Busnes a Gwasanaeth Cwsmeriaid.
Prif gyfrifoldebau o fewn YBA
Mae prif gyfrifoldebau Andrew yn canolbwyntio ar gynhyrchu incwm, twf busnes newydd a DPAau cymorth sgiliau. Y rhain yw grantiau/cyllid, rhwydweithio/cyfnewid gwybodaeth, DPP ymchwil contract/ ymgynghoriaeth, y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol, a Thwf Canolbarth Cymru/ Ffyniant Gyffredin.
Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae Andrew yn mwynhau'r gweithio hyblyg yn y brifysgol.