Dr Martine Robson
BA Saesneg a Ffrangeg BSc (Anrhydedd) Seicoleg PhD TUAAU Cymrawd yr Academi Addysg Uwch
Lecturer in Psychology
Manylion Cyswllt
- Ebost: mtr1@aber.ac.uk
- ORCID: 0000-0003-2770-6292
- Swyddfa: 1.34
- Ffôn: +44 (0) 1970 628610
- Proffil Porth Ymchwil
Proffil
Graddiodd Martine o Aberystwyth yn 2012 gyda gradd Dosbarth 1af mewn Seicoleg. Dyfarnwyd ei PhD yn 2017. Dyfarnwyd iddi ragoriaeth yn ei Thystysgrif Uwchraddedig mewn Addysg Uwch yn 2015.
Dysgu
Module Coordinator
Lecturer
- PS34120 - Psychology Research Project for Joint Honours
- PS22120 - Foundations of Counselling II: Further Skills and Theory
- SC33140 - Prosiect ymchwil Seicoleg ar gyfer anrhydedd sengl
- SC33240 - Prosiect Ymchwil Cwnsella
- PS33240 - Counselling Research Project
- PS33140 - Psychology Research Project for Single Honours
- PS32320 - Sex and relationships in psychotherapeutic practice
- PS11420 - Introduction to core topics in Social and Individual Behaviour
Tutor
Coordinator
Ymchwil
Sut y mae cyplau'n rheoli newidiadau i'w ffordd o fyw ar ôl diagnosis o glefyd coronaidd y galon.
Clefyd coronaidd y galon (CCG) yw'r prif achos marwolaeth yn fyd-eang (Sefydliad Iechyd y Byd, 2014). Yn gyffredinol, mae pobl mewn perthynas tymor-hir yn cael llai o drawiadau ar y galon a llawdriniaethau cardiaidd na phobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain, ac maent yn gwella'n gyflymach (Idler, Boulifard a Contrada, 2012). Mae newidiadau ymddygiadol sy'n ymwneud â diet, ymarfer corff ac ysmygu yn gysylltiedig â gwell canlyniadau iechyd ymhlith cleifion CCG, ac mae pobl mewn perthynas tymor hir yn fwy tebygol o wneud newidiadau o'r fath. Ond nid yw'r manteision hyn yn gyffredin i bawb. Mae'n bosib bod gweithgareddau iechyd dydd i ddydd y cyplau yn esbonio rhywfaint o gymhlethdod y berthynas hon rhwng iechyd/afiechyd (Lewis a Butterfield, 2007), er nad ydym yn deall y prosesau hyn yn dda iawn. Mae fy PhD yn edrych ar sut y mae cyplau yn trafod ac yn rheoli newidiadau i'w ffordd o fyw aargymhellir ar ôl i un partner gael diagnosis CCG. Cafodd y cyplau, a recriwtiwyd o fewn pythefnos i gael diagnosis, eu cyfweld unwaith y mis am dri mis yn ystod eu cyfnod ymadfer. O safbwynt iechyd, rwy'n edrych ar sut mae cyplau'n ymdrin â chyngor a gwybodaeth am eu ffordd o fyw yng nghyd-destun dealltwriaethau neoryddfrydol o iechyd. Gan ddefnyddio dull ymresymiadol, rwy'n nodi'r ffyrdd y mae cyplau yn mabwysiadu, yn gwrthwynebu, ac yn gweddnewid trafodaethau cymdeithasol ehangach am iechyd, a deinameg a'r cymhlethdodau ynghlwm wrth roi a derbyn cyngor iechyd o fewn perthynas agos.
Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)
- Dydd Mawrth 2p.m.-4p.m.
- Dydd Mercher 10a.m-11a.m