Dr Alexander Taylor
Lecturer in Psychology
Manylion Cyswllt
- Ebost: alt48@aber.ac.uk
- ORCID: 0000-0002-9955-8877
- Swyddfa: 0.15, Adeilad Penbryn 5
- Ffôn: +44 (0) 1970 628574
- Google Scholar: https://scholar.google.co.uk/citations?user=00U5IqYAAAAJ
- Proffil Porth Ymchwil
Proffil
Mae Dr Alexander Taylor yn Seicolegydd Siartredig ac yn Gymrawd Cyswllt gyda Chymdeithas Seicoleg Prydain ac yn Gymrawd yr academi addysg uwch, gyda PhD mewn Seicoleg o Brifysgol Reading, gradd anrhydedd MSc mewn Niwrowyddoniaeth o Brifysgol Manceinion, a gradd gyntaf -gradd dosbarth BSc anrhydedd mewn Bioleg Ddynol a Seicoleg o Brifysgol Swydd Stafford. Mae gen i brofiad ac arbenigedd ymchwil, yn ogystal â phrofiad clinigol a phrofiad dysgu ym meysydd: niwrowyddoniaeth affeithiol, gwybyddiaeth, heneiddio, clefyd Alzheimer, iechyd meddwl, niwroddelweddu, niwroseicoleg a dulliau ymchwil. Mae prif themâu fy ngwaith ymchwil yn canolbwyntio ar iechyd emosiynol a chorfforol oedolion hŷn yng nghyd-destun rhyngweithiadau emosiynol a gwybyddol mewn perthynas â modelau a damcaniaethau seicolegol a niwral.
Dysgu
Module Coordinator
- PS32120 - Behavioural Neuroscience
- PS21310 - Quantitative Research Methods
- PS32220 - The psychology of Ageing: older adults
Lecturer
- PS11220 - Brain, Behaviour and Cognition
- PS21310 - Quantitative Research Methods
- PS33240 - Counselling Research Project
- PS11520 - Applications of Psychology
- SC34120 - Prosiect ymchwil Seicoleg ar gyfer cyd-anrhydedd
- PS32120 - Behavioural Neuroscience
- PS34120 - Psychology Research Project for Joint Honours
- SC33140 - Prosiect ymchwil Seicoleg ar gyfer anrhydedd sengl
- SC33240 - Prosiect Ymchwil Cwnsella
- PS33140 - Psychology Research Project for Single Honours
- PS31520 - Psychology Critical Review
- PS31820 - Child Language: Development and Assessment
- PS11320 - Introduction to Research Methods in Psychology
- PSM0660 - Psychology PGT Dissertation (Behaviour Change)
Coordinator
- PS21310 - Quantitative Research Methods
- PS32120 - Behavioural Neuroscience
- PS32220 - The psychology of Ageing: older adults
Course Viewer
Tutor
Ymchwil
Meysydd ymchwil cyfredol: Canlyniadau pryder a achosir ar weithrediad gwybyddol a echddygol; Effaith Kombucha a prebiotics ar reolaeth wybyddol, straen ac emosiynol mewn unigolion iach (cyllid Innovate UK); Lles mewn natur.
Mae fy ngwaith ymchwil diweddar yn cynnwys y canlynol: Astudiaeth yn canolbwyntio ar ddatblygiad gwybyddol plant byddar a’r effaith ar gysylltiadau niwrol mewn cyfatebion niwrol allweddol, gan ddefnyddio fNIRS i asesu gweithgarwch niwrol; Mae un arall yn ymwneud â gwaith gyda’r gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, gan fanteisio ar lwyddiant prosiect haf yn y celfyddydau i leihau ymddygiad tramgwyddus. Yn y Sefydliad Strôc a Dementia ym Munich, roedd fy ngwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ddelweddu amlfodd (cyfuno EEG-fMRI) o newidiadau yn yr ymennydd dynol yng nghamau cychwynnol clefyd Alzheimer a chlefyd serebro-fasgwlaidd; Nesaf ymgymerais â phrosiect ym Mhrifysgol Southampton yn mesur effaith cyffuriau sy’n targedu sianeli ïonau synhwyro asid (ASIC) sy’n gallu lleddfu gorbryder, a gyflawnwyd drwy ddefnyddio her CO2 i beri gorbryder mewn gwirfoddolwyr iach (EOG, marcwyr imiwnedd ac ymddygiadol).
Trwy fy ngwaith ymchwil, rwyf wedi cael profiad dysgu gwerthfawr ym meysydd seicoleg fiolegol, niwroseicoleg, gwybyddiaeth, dulliau ymchwil a meysydd seicoleg creiddiol eraill. Ar hyn o bryd, rwyf wrthi’n cwblhau’r cymhwyster TUAAU, sydd wedi’i achredu gan Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Gyfunol, er mwyn ffurfioli safon a phrofiad fy ngwaith dysgu.
Cyfrifoldebau
Cadeirydd pwyllgor moeseg yr Adran Seicoleg
Aelod o banel moeseg ymchwil y Brifysgol (REP)
Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)
- Dydd Mawrth 10:30-12:00
- Dydd Mercher 11:30-13:00