Datganiad generig diogelu data
Sut mae'r prosiect yn cyd-fynd â rhwymedigaethau diogelu data?
Cynhelir yr ymchwil hwn yn unol â deddfwriaeth diogelu data cyfredol y DU. Prifysgol Aberystwyth (PA) fydd y rheolydd data ar gyfer y prosiect. Bydd eich data personol yn cael ei brosesu at y dibenion a amlinellir yn yr hysbysiad hwn. Mae cynnal ymchwil yn un o'n swyddogaethau craidd ac mae er budd y cyhoedd. Y sail gyfreithlon a ddefnyddir i brosesu eich data personol felly fydd ‘tasg er budd y cyhoedd’. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut y mae eich data personol yn cael ei brosesu, cysylltwch â’r ymchwilydd. Os oes gennych unrhyw bryderon, mae Rheolwr Diogelu Data’r Brifysgol yn gyfrifol am oruchwylio gweithgareddau sy’n ymwneud â phrosesu data personol, a gellir cysylltu â hwy ar infogovernance@aber.ac.uk. Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn darparu gwybodaeth am eich hawliau fel gwrthrych data a sut i godi unrhyw bryderon gyda nhw.
Pwy sydd wedi adolygu’r prosiect?
Cafodd y prosiect hwn ei adolygu a’i gymeradwyo gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth, yn unol â Chod Moeseg ac Ymddygiad Cymdeithas Seicolegol Prydain. Mae'n ofynnol i mi, yr ymchwilydd, gynnal yr ymchwil yn unol â'r canllawiau hyn.