Parcio i Staff
Gweler yr wybodaeth isod o ran parcio i staff:
Trwyddedau staff
Unwaith y byddwch wedi gwneud cais am hawlen, gellir ei chasglu o dderbynfa Penbryn rhwng 10yb-4yp o dydd Llun i dydd Gwener.
Bydd trwyddedau a roddir yn parhau i fod yn ddilys hyd nes y clywir yn wahanol.
Staff Amser-llawn a Rhan-amser
I ofyn am drwydded newydd, mewngofnodwch i'ch cyfrif Pobl Aber , dewiswch eich cyflogaeth, ac yna eich gwybodaeth bersonol, yna dewiswch y tab 'Didyniadau'.
Noder: Mae staff rhan-amser yn cael eu hystyried yn rhai sy'n gweithio 20 awr yr wythnos neu lai. Bydd gan aelod o staff gontract PA cyfredol ac mae'n gallu darparu rhif cyflogres.
Staff achlysurol
Os ydych yn perthyn i un o'r categorïau canlynol, prynwch eigh trwydded drwy'r siop ar-lein:
- Ar gontract dim oriau;
- Myfyriwr PhD (derbyn bwrsariaeth);
- Staff AberWorks; neu
- Goruchwyliwr arholiadau.
Staff wedi ymddeol, er Anrhydedd neu Emeritws
Os ydych chi'n aelod staff wedi ymddeol, er anrhydedd a/neu emeritws, gallwch brynu trwydded drwy'r siop ar-lein.
Cost trwydded barcio
Lle bynnag y bo'n bosibl, bydd aelodau o staff yn talu am eu trwyddedau trwy eu cyflog, a ddidynnir bob mis.
Mae taliadau parcio'n cael eu cymeradwyo gan Bwyllgor Adnoddau a Pherfformiad y Brifysgol ac fe gânt eu hadolygu'n flynyddol. Costau parcio ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 - 2023 yw:
Trwydded Gradd | 1 - 3 | 4 - 6 |
7+ |
---|---|---|---|
Staff | £5.20 | £6.06 | £6.93 |
Cyfyngedig | £5.20 | £6.06 | £6.93 |
Rhan-amser (gweithio 20 awr neu lai yr wythnos) | £2.62 | £2.62 | £2.62 |
Beiciau modur | £2.60 | £3.03 | £3.46 |
Deiliaid Bathodyn Glas Anabl | Am ddim | Am ddim | Am ddim |
Lleoliadau meysydd parcio
Gallwch barcio yn yr ardaloedd parcio dynodedig a ddangosir ar Fap parcio Penglais a Llanbadarn a Map parcio Gogerddan- mae parcio staff wedi'i farcio'n felyn.
Parcio heb drwydded
Bydd unrhyw gerbydau sy'n parcio heb drwydded a thrwy hynny’n mynd yn groes i Reoliadau Parcio'r Brifysgol, yn cael rhybudd yn y lle cyntaf. Os bydd rhywun yn mynd yn groes i’r rheolau am yr eildro, bydd Hysbysiad Tâl Parcio yn cael ei roi ar ffenestr flaen y cerbyd. Pris y tâl hwn yw £80 (gostyngir i £40 os telir y ddyled yn brydlon o fewn 14 diwrnod). I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar Reoliadau Traffig a Pharcio y Brifysgol.
Newid cerbyd
Wrth newid cerbydau, cadwch eich trwydded oherwydd gallwch ei throsglwyddo i'ch car newydd. Mae unrhyw drwydded(au) sydd gennych yn cael eu clustnodi i chi fel unigolyn a gellir ei symud rhwng eich cerbyd(au) cofrestredig yn ôl y gofyn.
Os yw eich trwydded yn wyn ac yn las, cysylltwch â ni ar efastaff@aber.ac.uk neu 01970 621947 gyda'ch manylion cofrestru newydd a byddwn yn gallu diweddaru hon ar eich rhan.
Cofrestru ail gerbyd
Gallwch gofrestru hyd at ddau gerbyd, cyhyd ag mai dim ond un o'r rhain sydd ar y campws ar unrhyw un adeg. Byddai angen arddangos trwyddedau ar y ddau gerbyd bob amser. Gallwch gofrestru eich ail gerbyd drwy e-bostio efastaff@aber.ac.uk neu ffoniwch (01970) 621947 i'n hysbysu o'r rhif cofrestru. Yna bydd trwydded newydd yn cael ei chyhoeddi.
Oriau parcio
Mae cyfyngiadau parcio mewn ardaloedd staff yn berthnasol rhwng 08.00 - 17.30. Y tu allan i'r oriau hyn, gall meysydd parcio staff gael eu defnyddio gan ymwelwyr yn gyffredinol. Mae parcio ar linellau melyn dwbl, croesfannau i gerddwyr ac ardaloedd dosbarthu wedi'i wahardd bob amser.