Parcio i Ymwelwyr

Mae tua 200 o leoedd parcio sy’n eiddo i’r Brifysgol neu a reolir ganddi yn Aberystwyth. Rhaid i bob cerbyd sy'n parcio yn yr ardaloedd hyn arddangos trwydded barcio ddilys neu docyn parcio talu ac arddangos dilys. 

Trwyddedau parcio

Caiff Ymwelwyr barcio yn y maes parcio Talu ac Arddangos yng Nghanolfan y Celfyddydau, gan sicrhau bod y ffi gywir yn cael ei thalu a bod tocyn dilys yn cael ei arddangos. 

Caiff Defnyddwyr y Ganolfan Chwaraeon  barcio ym maes parcio pwrpasol y Ganolfan Chwaraeon, sydd â therfyn parcio o 3 awr, heb ddychwelyd o fewn 2 awr. 

Mae'r grwpiau canlynol hefyd wedi'u heithrio rhag prynu trwydded barcio:

  1. Ymwelwyr ar eu gwyliau- bydd trwydded bwrpasol yn cael ei chyhoeddi gan staff y Swyddfa Gynadleddau. 
  2. Cynrychiolwyr Cynadleddau (Ystafelloedd MedRus yn unig)- cyhoeddir gan staff y Swyddfa Gynadleddau. 
  3. Cynrychiolwyr Cynadleddau (mewn mannau eraill o fewn y Brifysgol)- dylai cynrychiolwyr sy'n mynychu cynadleddau, seminarau neu ddigwyddiadau arbennig eraill sydd wedi'u trefnu o flaen llaw gysylltu â’r staff diogelwch ymhell o flaen llaw. Gellir wedyn ystyried a chytuno ar drefniadau parcio arbennig er mwyn sicrhau y gellir lliniaru’r effaith sy'n deillio o hynny ar weithgareddau arferol y Brifysgol. 
  4. Ymwelwyr achlysurol ag adrannau- gall staff diogelwch roi trwydded barcio ddydd i ymwelwyr heb unrhyw gost pan fydd yr adran berthnasol yn rhoi gwybod iddynt o flaen llaw. 
  5. Contractwyr a gweithwyr allanol eraill- Gall staff Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd roi trwydded dros dro i gontractwyr, sydd ar gael o Floc Cyfleusterau Cwrt Mawr. 

 

Os ydych chi’n credu eich bod yn dod o dan un o'r categorïau a nodir uchod, cysylltwch â'r adran/trefnydd yr ydych yn ymweld â hwy i gadarnhau a fyddwch yn cael y drwydded hon.

Cost parcio

I weld y costau parcio diweddaraf, gweler yr arwyddion perthnasol ym maes parcio Talu ac Arddangos Canolfan y Celfyddydau.

Mae taliadau parcio'n cael eu cymeradwyo gan Bwyllgor Adnoddau a Pherfformiad y Brifysgol ac fe gânt eu hadolygu'n flynyddol.

 

Mae maes parcio'r Ganolfan Chwaraeon (cawell) yn caniatáu uchafswm o 3 awr i ddefnyddwyr y ganolfan chwaraeon, heb ddychwelyd o fewn 1 awr.

Lleoliadau meysydd parcio

Gallwch barcio yn yr ardaloedd parcio dynodedig a ddangosir ar map parcio Penglais, map parcio Llanbadarn a map parcio Gogerddan.

Parcio heb Drwydded na thocyn Talu ac Arddangos

Bydd unrhyw gerbydau sy'n mynd yn groes i Reoliadau Parcio'r Brifysgol, yn cael rhybudd yn y lle cyntaf. Os bydd rhywun yn mynd yn groes i’r rheolau am yr eildro, bydd Hysbysiad Tâl Parcio yn cael ei roi ar ffenestr flaen y cerbyd. Y tâl yw £80, ond os telir y ddyled yn brydlon (o fewn 14 diwrnod) rhoddir gostyngiad o 50%. Ceir mwy o wybodaeth ar y dudalen we Rheoliadau Parcio.

Manylion adrodd:

Ceisiadau cynnal a chadw, materion, adrodd am ddiffygion a cheisiadau am waith bach (£5m - £25m) -

Ffôn 01970 622999

neu e-bost campushelp@aber.ac.uk

Ceisiadau prosiect mawr ac ymholiadau eraill - Ffôn 01970 621951

neu e-bost jxr@aber.ac.uk

Ceisiadau glanhau a porthora - E-bost facstaff@aber.ac.uk

Mewn argyfwng ffoniwch staff Diogelwch - Ffôn 01970 622649