Y Cynlluniau
Yr Hen Goleg: lle ar gyfer darganfyddiadau a thwf
Y weledigaeth yw dod â bywyd newydd i'r Hen Goleg, cartref cyntaf Coleg Prifysgol Cymru, a thrawsnewid yr adeilad eiconig hwn yn ganolfan ddiwylliannol a chreadigol o bwys.
Fel cartref cyntaf y Brifysgol yn 1872, bu’r Hen Goleg yn bont hanfodol rhwng y Brifysgol a'r dref. Roedd yn fan lle gallai myfyrwyr, staff a'r gymuned gyfarfod i rannu gwybodaeth, croesawu ymwelwyr a mwynhau gweithgareddau fel darlithoedd cyhoeddus a pherfformiadau cerddorol, yn croesawu corau a grwpiau cymunedol eraill.
Yn ein cynlluniau, mae llawer o'r amcanion gwreiddiol hynny wedi cael eu hailddychmygu ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Bydd yr Hen Goleg, y disgwylir y bydd yn agor yn 2026, unwaith eto yn dod yn fan o gyfoeth diwylliannol a chymdeithasol, yn lle i bobl ifanc ddysgu a ffynnu ynddo, yn lleoliad lle gall cymunedau ddod at ei gilydd i oresgyn heriau ar y cyd ac yn ysbardun i dwf economaidd.
Ar ôl ei gwblhau, bydd yr Hen Goleg yn cynnwys 143 o ystafelloedd dros saith llawr, gan gynnwys 10 ystafell sy’n gallu dal rhwng 60 hyd at 200 o bobl a 60 o ystafelloedd gwely i greu unig westy 4-seren Aberystwyth.
Disgwylir y bydd yr Hen Goleg yn denu tua 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, gyda bron i hanner ohonynt o'r tu allan i Gymru. Bydd yn creu 48 o swyddi newydd ac yn cynnig dros 1,300 o gyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli.
Mae'r adeilad wedi'i gynllunio i weithredu'n symbiotaidd. Bydd yr incwm a gynhyrchir gan y gweithgareddau masnachol yn cynnal y mannau a fydd yn cynnig cymaint i'r gymuned, bobl ifanc, myfyrwyr ac ymwelwyr, ac yn eu tro bydd yr atyniadau hynny'n sbarduno llwyddiant masnachol yr Hen Goleg ac yn codi'r llanw economaidd ar gyfer cymuned fusnes ehangach Aberystwyth.
Cefnogir ein cynlluniau gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion a'n partneriaid, sef Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Gyda'ch cymorth chi, bydd drysau'r Hen Goleg yn agor i ehangu gorwelion a chyfoethogi bywydau pobl Aberystwyth, Ceredigion, Cymru a'r byd.
Prif lun: Craig Kirkwood