Mwy o bori gan anifeiliaid yn bygwth ecosystemau mewn hinsawdd gynhesach
Gemsbok yn anialwch y Kalahari
25 Tachwedd 2022
Gall pori anifeiliaid mewn ardaloedd cynnes a sych o’r byd niweidio ecosystemau ond fod yn hwb iddyn nhw mewn sychdiroedd oerach, yn enwedig pan fo gwahanol rywogaethau’n bwydo gyda’i gilydd, yn ôl ymchwil newydd.
Wedi’u cyhoeddi yn y cyfnodolyn Science, mae canfyddiadau’r tîm rhyngwladol, sy’n cynnwys yr Athro Andrew Thomas o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, yw’r asesiad maes byd-eang cyntaf erioed o effeithiau ecolegol pori ar sychdiroedd.
Mae lefelau uchel o ffermio da byw ar sychdiroedd wedi cael ei ystyried yn fygythiad i fioamrywiaeth ers tro.
Fodd bynnag, mae pori yn cynnal bywoliaethau biliynau o bobl ac mae wedi'i gysylltu'n agos â llawer o Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
Mae'n arbennig o bwysig mewn sychdiroedd, sy'n gorchuddio dros 40% o arwynebedd tir y Ddaear, ac sy'n gartref i un o bob tri bod dynol a dros hanner yr holl dda byw ar y blaned.
Er gwaethaf pwysigrwydd pori i fodau dynol ac ecosystemau, nid oes unrhyw astudiaeth flaenorol wedi ceisio mapio ei effeithiau ar draws y byd gan ddefnyddio data maes.
Cynhaliodd tîm rhyngwladol, o fwy na 100 o ymchwilwyr, arolwg byd-eang unigryw mewn 326 o sychdiroedd wedi’u lleoli mewn 25 o wledydd ar chwe chyfandir.
Yn ôl yr astudiaeth, ar y cyfan, cafodd mwy o bori effaith gadarnhaol ar sychdiroedd oerach gyda llai o wahaniaeth o ran faint o law y mae hi’n ei fwrw o dymor i dymor a mwy o amrywiaeth planhigion. Ond cafodd lefel uwch o bori effaith negyddol mewn sychdiroedd poethach gyda llai o amrywiaeth o blanhigion a llai o wahaniaeth o ran faint o law y mae hi’n ei fwrw o dymor i dymor.
Dywedodd yr Athro Andrew Thomas o Brifysgol Aberystwyth, a arweiniodd y gwaith maes yn anialwch Kalahari yn ne Affrica:
“Mae’r canfyddiadau hyn yn bwysig iawn: mae tua biliwn o bobl mewn sychdiroedd yn dibynnu ar bori am eu hincwm neu fwyd. Mae'r astudiaeth yn herio'r rhagdybiaeth bod pori o'r fath bob amser yn ddrwg i'r amgylchedd.
“Pan ddaw hi at bori mewn sychdiroedd, does dim un rheol sy’n berthnasol i bob ardal. Bydd effeithiau pori yn amrywio ar draws y byd, gan ei gwneud yn bwysig ystyried amodau lleol wrth reoli da byw a llysysyddion gwyllt.
“Gostyngodd stociau carbon a chynyddodd erydiad pridd wrth i’r hinsawdd ddod yn gynhesach o dan bwysau pori uchel, rhywbeth na chafodd ei weld o dan bwysedd pori isel. Mae’r canlyniadau hyn yn awgrymu y gall ymateb sychdiroedd i newid parhaus yn yr hinsawdd ddibynnu ar sut y cânt eu rheoli’n lleol.”
Dylai’r canfyddiadau hefyd helpu i reoli pori’n fwy cynaliadwy a lliniaru effaith newid hinsawdd a'r broses o diroedd yn troi yn anialwch ar draws sychdiroedd yn fyd-eang.
Dywedodd yr Athro Fernando T. Maestre, cyfarwyddwr Labordy Ecoleg a Newid Byd-eang Sychdir ym Mhrifysgol Alicante:
“Defnyddion ni brotocolau safonol i asesu effeithiau pwysau pori cynyddol ar allu sychdiroedd i ddarparu naw gwasanaeth ecosystem hanfodol, gan gynnwys ffrwythlondeb pridd ac erydiad, cynhyrchu porthiant/coed a rheoleiddio hinsawdd. Roedd gwneud hynny’n ein galluogi i ddisgrifio sut mae effeithiau pori’n dibynnu ar amodau hinsawdd, pridd a bioamrywiaeth leol, yn ogystal â chael gwell dealltwriaeth o rôl bioamrywiaeth o ran darparu gwasanaethau ecosystem sy’n hanfodol i gynnal bywoliaeth ddynol.”
Canfu ymchwilwyr fod y berthynas rhwng hinsawdd, cyflwr y pridd, bioamrywiaeth a’r gwasanaethau ecosystem a gafodd eu mesur yn amrywio gyda phwysau pori.
Dangosodd yr awduron hefyd fod gan amrywiaeth y planhigion fasgwlaidd a’r mamaliaid sy’n llysysyddion gysylltiad cadarnhaol ag iechyd ecosystemau, megis storio carbon, sy’n chwarae rhan sylfaenol mewn rheoleiddio hinsawdd.
Ychwanegodd yr Athro Thomas:
“Mae’r canlyniadau’n amlygu’n glir bwysigrwydd gwarchod bioamrywiaeth sychdiroedd byd-eang yn ei gyfanrwydd, nid yn unig i warchod eu gallu i ddarparu gwasanaethau hanfodol i fodau dynol, ond hefyd i liniaru newid hinsawdd.”
Cafodd y gwaith hwn ei wneud fel rhan o brosiect BIODESERT, gyda chefnogaeth rhaglen Grant Cyfunol y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd. Dywedodd yr Athro Maestre:
“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Cyngor Ymchwil Ewropeaidd am gefnogi’r arolwg byd-eang hwn, gan na fyddai prosiect sydd â risgiau a buddion uchel wedi bod yn bosibl heb y cyllid hael a’r rhyddid a ddaw gyda grant y Cyngor. Ac wrth gwrs, fyddai hi ddim wedi bod yn bosibl heb ein rhwydwaith o gydweithredwyr rhyngwladol, a ddarparodd eu harbenigedd, eu hadnoddau, a’u gwaith i arolygu safleoedd yn eu priod feysydd astudio. Mae arolwg BIODESERT hefyd yn rhoi enghraifft braf iawn o rym rhwydweithiau ymchwil byd-eang a chydweithredol i gynnal ymchwil blaengar.”