Partneriaeth newydd i helpu ffermwyr gyrraedd sero-net
08 Chwefror 2021
Heddiw cyhoeddodd Germinal a Phrifysgol Aberystwyth bartneriaeth ymchwil tymor hir newydd a fydd yn hyrwyddo ffermio cynaliadwy.
Porthladdoedd i serennu mewn ffilmiau byrion i helpu i hybu economi twristiaeth
10 Chwefror 2021
Bydd pum tref borthladd yng Nghymru ac Iwerddon yn serennu mewn cyfres o ffilmiau dogfen byrion wedi’u comisiynu gan Brifysgol Aberystwyth fel rhan o brosiect mawr i ysgogi twf economaidd a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd.
Platfform digidol newydd i Eiriadur Eingl-Normaneg y Canol Oesoedd
11 Chwefror 2021
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi lansio platfform digidol newydd sy'n darparu am y tro cyntaf erioed ar-lein, wybodaeth gronolegol fanwl ar gyfer geiriau Eingl-Normaneg.
Ffilm fer wedi’i dewis i fod yn rhan o ŵyl ffilmiau fawr ei bri
11 Chwefror 2021
Mae ffilm fer a grëwyd gan Amy Daniel, gwneuthurwr ffilmiau a Darlithydd Cysylltiol ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi’i dewis i fod yn rhan o ŵyl ffilmiau fawr ei bri yng Ngogledd America y mis nesaf.
Ymgynghoriad ar ffordd newydd o raddio cig eidion
12 Chwefror 2021
Gallai gwerthuso cig eidion mewn ffordd newydd olygu bod cwsmeriaid yn fwy bodlon gyda’u prydiau bwyd, yn ôl ymchwilwyr.
Archwilio cyfyngiadau Deallusrwydd Artiffisial wrth ddarogan maes magnetig yr Haul
12 Chwefror 2021
Mae angen i wyddonwyr fod yn ymwybodol o gyfyngiadau technegau Deallusrwydd Artiffisial (AI) a ddefnyddir i ddarogan y maes magnetig solar byd-eang a phroffwydo tywydd y gofod, yn ôl astudiaeth academaidd newydd a gyhoeddwyd heddiw (dydd Gwener 12 Chwefror 2021) yng nghylchgrawn Nature Astronomy.
Honiadau ysbïo Donald Trump: idiot defnyddiol yn fwy tebygol nag asiant Putin
16 Chwefror 2021
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Kyle Cunliffe, myfyriwr PHD o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, yn trafod perthynas Donald Trump gyda’r Kremlin mewn llyfr newydd gan y newyddiadurwr profiadol o’r Unol Daleithiau Craig Unger, gan honni bod cyn brif-bennaeth yr UD wedi’i drin fel ased cudd-wybodaeth Rwseg.
Prosiect ceirch iach yn denu grant mawr
17 Chwefror 2021
Mae prosiect ymchwil i hyrwyddo datblygiad ceirch fel cynnyrch bwyd iach a chnwd sy'n gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd yng Nghymru ac Iwerddon wedi derbyn grant Ewropeaidd sylweddol.
John Keats: sut mae ei gerddi am farwolaeth ac ieuenctid coll yn taro deuddeg yng nghyfnod COVID-19
23 Chwefror 2021
Ar ddeucanmlwyddiant marwolaeth Keats, mae Athro Llenyddiaeth Saesneg, Richard Marggraf Turley, yn ysgrifennu yn The Conversation am sut y daeth Keats yn fardd ei gyfnod a hefyd yn fardd ein hoes ni.
Hwb i ymchwil y diwydiannau creadigol gyda swydd newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth
23 Chwefror 2021
Mi fydd hwb i ymchwil ym maes y diwydiannau creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dilyn penodi cymrawd newydd.
Gwyddonydd IBERS yn lansio cwmni arloesol yn Aberystwyth
23 Chwefror 2021
Mae ymchwil ar gynhyrchu melysydd calorïau isel o wellt grawnfwyd sydd yn wastraff amaethyddol, wedi arwain at lansio cwmni newydd cyffrous ar Gampws Arloesi a Menter Prifysgol Aberystwyth.
Sgamiau brechlyn coronafirws - mae arbenigwyr twyll yn rhoi eu cynghorion gorau i'ch helpu chi i gadw'n ddiogel
24 Chwefror 2021
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Gareth Norris a Alexandra Brookes o’r Adran Seicoleg yn trafod y sgamiau COVID-19 sydd wedi dod i'r amlwg tra bod pobl yn aros am eu brechlyn a ffyrdd i'ch helpu chi i gadw'n ddiogel.
Mesurau lliniaru ychwanegol ar gyfer arholiadau myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth
26 Chwefror 2021
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi rhagor o newidiadau i’w threfniadau arholi ac asesu myfyrwyr o ganlyniad i’r argyfwng Covid-19, yn dilyn trafodaethau gyda chynrychiolwyr staff a myfyrwyr.