Porthladdoedd i serennu mewn ffilmiau byrion i helpu i hybu economi twristiaeth
Borthladd Abergawu llun gan Mother Goose Films.
10 Chwefror 2021
Bydd pum tref borthladd yng Nghymru ac Iwerddon yn serennu mewn cyfres o ffilmiau dogfen byrion wedi’u comisiynu gan Brifysgol Aberystwyth fel rhan o brosiect mawr i ysgogi twf economaidd a ariannwyd gan yr Undeb Ewropeaidd.
Mae prosiect ‘Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw’ yn ymchwilio i hanes a threftadaeth ddiwylliannol porthladdoedd Abergwaun, Caergybi a Doc Penfro yng Nghymru, a Dulyn a Rosslare yn Iwerddon.
Y nod yw cynyddu nifer yr ymwelwyr a gwella profiadau twristiaid yn y pum cymuned, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth yn lleol am dreftadaeth naturiol a diwylliannol y porthladdoedd a’u pwysigrwydd i dwf economaidd yn y dyfodol.
Fel rhan o ystod eang o weithgareddau diwylliannol, mae tîm y prosiect ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi penodi cwmni sydd â swyddfeydd yn Sir Benfro i gynhyrchu cyfres o wyth ffilm ddogfen fer i hyrwyddo pum tref borthladd a’r tri llwybr fferi sy’n eu cysylltu.
Bydd y ffilmiau yn cyfuno hen ffilmiau hanesyddol a ffilmiau newydd, gan ddefnyddio lleisiau, synau a golygfeydd, yn ogystal ag adlewyrchu natur amlieithog ac amlddiwylliannol y porthladdoedd a’u cyffiniau.
Dywedodd yr Athro Peter Merriman, arweinydd tîm y prosiect yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth: “Yn dilyn proses tendro cystadleuol, pleser mawr yw cael cyhoeddi ein bod wedi penodi cwmni Mother Goose Films, sydd â swyddfeydd yn Sir Benfro a Bryste ac sydd wedi gweithio ar ystod o ymgyrchoedd twristaidd proffil uchel yng Nghymru ac Iwerddon.
“Dyma gyfle gwych i amlygu treftadaeth ddiwylliannol cymunedau’r porthladdoedd hyn, trwy adrodd hanes cyfoethog y llefydd yma sydd ar ffiniau daearyddol ein gwledydd ond sydd hefyd yn llwybrau teithio pwysig ar gyfer pobl a nwyddau sy’n croesi Môr Iwerddon. Mae twristiaeth ddiwylliannol yn elfen bwysig o economi Cymru ac Iwerddon a phan fydd amgylchiadau’n caniatáu, rydym yn awyddus i ddenu ymwelwyr newydd o dramor i’r trefi yma, yn ogystal ag ennyn diddordeb cymunedau lleol yn nhreftadaeth eu porthladdoedd, er mwyn helpu i fynd i’r afael â heriau economaidd.”
Mae aelodau’r tîm ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cefnogi’r broses o gynhyrchu’r ffilmiau trwy eu gwaith ymchwil academaidd ar ddogfennau hanesyddol a hen ffilmiau a ganfuwyd mewn archifau ffilm, sirol a chenedlaethol.
Mae ymchwilwyr hefyd yn awyddus i glywed gan aelodau o’r cyhoedd sydd â chysylltiadau agos â’r porthladdoedd dan sylw ac sy’n fodlon rhannu eu lluniau, eu ffilmiau neu eu hanesion teuluol. Gellir cysylltu â’r tîm trwy ebostio Rita Singer ris32@aber.ac.uk.
Bydd y ffilmiau yn ffurfio rhan o ymgyrch dwristiaeth ehangach i godi ymwybyddiaeth am dreftadaeth arfordirol a morwrol helaeth y pum porthladd a’u cymunedau, gan anelu’n bennaf at bobl sy’n defnyddio’r fferi i groesi Môr Iwerddon, yn ogystal â’r farchnad llongau mordaith ryngwladol.
Dywedodd arweinydd y prosiect, yr Athro Claire Connolly o Goleg Prifysgol Corc: “Bydd ffilmiau Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw yn fframio lleisiau, lluniau a hanesion o’r pum porthladd, gan alluogi ffyrdd newydd o ymgysylltu â’r gorffennol maen nhw’n ei rannu.”
Ariennir Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru, ac mae’n gweithredu ar draws pedwar sefydliad yn Iwerddon a Chymru, yn cynnwys Coleg Prifysgol Corc, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chyngor Sir Wexford. Arweinir prosiect y ffilmiau gan dîm yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.