Platfform digidol newydd i Eiriadur Eingl-Normaneg y Canol Oesoedd

Y tîm fu’n gweithio ar blatfform digidol newydd y Geiriadur Eingl-Normaneg: (chwith i’r dde) Dr Geert De Wilde, Prif-Ymchwilydd, Golygydd ac Arweinydd Prosiect, Dr Megan Tiddeman, Cynorthwyydd Golygyddol Ol-Ddoethurol, a Dr Heather Pagan, Cyd-Ymchwilydd a Golygydd.

Y tîm fu’n gweithio ar blatfform digidol newydd y Geiriadur Eingl-Normaneg: (chwith i’r dde) Dr Geert De Wilde, Prif-Ymchwilydd, Golygydd ac Arweinydd Prosiect, Dr Megan Tiddeman, Cynorthwyydd Golygyddol Ol-Ddoethurol, a Dr Heather Pagan, Cyd-Ymchwilydd a Golygydd.

11 Chwefror 2021

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi lansio platfform digidol newydd sy'n darparu am y tro cyntaf erioed ar-lein, wybodaeth gronolegol fanwl ar gyfer geiriau Eingl-Normaneg.

Ffurf o Ffrangeg yw Eingl-Normaneg ac fe ddaeth i Brydain o Ffrainc gyda Gwilym y Concwerwr yn 1066, gan osod y seiliau ar gyfer yr iaith Saesneg sy’n cael ei siarad heddiw.

Hon oedd prif iaith ysgrifenedig Ynysoedd Prydain tan ganol y drydedd ganrif ar ddeg ac roedd yn dal i gael ei defnyddio ar gyfer materion gweinyddol cymhleth yn ogystal â materion gwladol tan ddiwedd y bymthegfed ganrif.

Gyda chyllid gan Ymchwil ac Arloesi y DU drwy Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), mae aelodau o dîm y Geiriadur Eingl-Normaneg yn Adran Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn adolygu ac yn cyfoethogi rhifyn cyntaf y Geiriadur Eingl-Normaneg a argraffwyd mewn cyfres o gyfrolau rhwng 1977 a 1992.

Cafodd eu gwaith ditectif ar eiriau ei gyhoeddi ar-lein am y tro cyntaf yn 2001 pan oedd y prosiect dan arweiniad y diweddar Athro David Trotter.

Gan ddadansoddi’r eirfa o dros fil o destunau hanesyddol gwreiddiol, mae ymchwilwyr wedi diwygio cofnodion y geiriadur ar gyfer llythrennau A-R ac maen nhw’n gweithio ar hyn o bryd ar ddiwygio geiriau’n dechrau â’r llythyren S.

Cwblhau adolygiad cyflawn o A-Z yw prif amcan y prosiect, gan arwain at gynhyrchu adnodd ar-lein a fydd dair neu bedair gwaith yn fwy na’r rhifyn cyntaf.

Mae platfform digidol newydd sbon bellach wedi'i lansio, gan ddarparu rhyngwyneb mwy cyfoes a haws ei ddefnyddio yn ogystal ag ychwanegu nodweddion ac opsiynau chwilio newydd. Hyd yma, mae'n cynnwys mwy na 25,000 o eiriau a thua 175,000 o ddyfyniadau.

Dywedodd Dr Geert De Wilde, Prif Ymchwilydd, Golygydd ac Arweinydd y Prosiect: "Y peth pwysicaf am y platform digidol newydd yma yw bod canlyniadau trosi'r Geiriadur Eingl-Normaneg yn Eiriadur Hanesyddol ar gael am y tro cyntaf erioed, gan ddarparu gwybodaeth gronolegol fanwl ar gyfer pob gair Eingl-Normaneg. Mae felly'n cynnig adnodd gwell o lawer i ymchwilwyr nid yn unig o ran darllen a deall ffynonellau Eingl-Normaneg ond hefyd o safbwynt astudio elfen arwyddocaol iawn o hanes y Ffrangeg a'r Saesneg."

Caiff elfen gronolegol y Geiriadur Eingl-Normanaidd digidol ei ymgorffori ym mhob opsiwn chwilio - er enghraifft, yn ôl y diffiniad Saesneg, ffynhonnell wreiddiol y testun neu’r maes semanteg - a bydd yn caniatáu i ymchwilwyr olrhain datblygiad cronolegol yr iaith ganoloesol.

Mae'r adnodd yn dangos sut mae mwy na 50% o’r geiriau Saesneg a ddefnyddir heddiw yn tarddu o’r Eingl-Normaneg gan gynnwys geiriau fel 'actually’, 'jolly', 'dungeon' a 'nice' yn ogystal â llu o eiriau coginio cyffredin fel 'soup’, 'lettuce', 'crust', 'sauce' a 'mustard'.

Ariannwyd y prosiect Geiriadur Eingl-Normanaidd gan gyfres o grantiau AHRC a ddyfarnwyd yn 2003, 2007, 2012 ac yn fwyaf diweddar, grant pellach o ychydig dros £800,000 ar gyfer y cyfnod rhwng Mawrth 2017 a Chwefror 2021. 

Yn 2011 dyfarnwyd gwobr y Prix Honoré Chavée i’r Geiriadur gan yr Académie des Inscriptions et Belles-Lettres yn Ffrainc, ac mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda geiriaduron Ffrangeg canoloesol yn Nancy, Ffrainc a Heidelberg yn yr Almaen, yn ogystal â'r Oxford English Dictionary a’r Middle English Dictionary yn Unol Daleithiau America.