Prifysgol Aberystwyth yn ymuno â chynllun profi newydd y llywodraeth ar gyfer teithio mwy diogel i fyfyrwyr

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth

24 Tachwedd 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cadarnhau y bydd yn cymryd rhan yng nghynllun y llywodraeth i gynnig prawf COVID-19 newydd i fyfyrwyr er mwyn lleihau lledaeniad y feirws wrth iddynt deithio dros y gwyliau.

Mae’r cynllun, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams, wedi ei lunio er mwyn cefnogi ymdrechion ledled Cymru a chenhedloedd eraill y DU i leihau’r risg o fyfyrwyr yn trosglwyddo’r feirws i gyfeillion ac anwyliaid, wrth iddynt deithio dros gyfnod yr ŵyl yn enwedig.

Bydd y Brifysgol yn gweithio’n agos gyda’r llywodraeth er mwyn lletya canolfan brofi newydd ar gampws Penglais, gan gynnig profion Llif Unffordd am ddim i fyfyrwyr a staff.

Mae profion Llif Unffordd wedi eu hanelu at bobl heb symptomau COVID ac yn gallu cynhyrchu canlyniadau’n gyflymach na’r profion PCR (adwaith cadwynol polymerasau) presennol a ddefnyddir ar draws y Gwasanaeth Iechyd i brofi’r rheini sy’n symptomatig.

Mae’r profion newydd yn gallu synhwyro presenoldeb y coronafeirws drwy roi swab neu sampl poer ar bad amsugnol y ddyfais. Mae’r sampl yn rhedeg ar hyd arwyneb y pad, gan ddangos canlyniad positif neu negatif yn ddibynnol ar bresenoldeb y feirws.

Mae canlyniad y prawf yn gywir ar ddiwrnod y cymerwyd y prawf yn unig. Dyw canlyniad negyddol ddim yn golygu bod yr unigolyn yn heb ei heintio, ac felly mae angen i unigolion barhau i fod yn wyliadwrus am unrhyw symptomau.

Cynhelir profi ar gampws Prifysgol Aberystwyth rhwng dydd Llun 30 Tachwedd a dydd Llun 7 Rhagfyr.

Nid fydd y ganolfan brofi ar agor i’r cyhoedd.

Meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Ein blaenoriaeth yw iechyd a lles ein myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach. Dyma fu’r flaenoriaeth ers dechrau’r pandemig. Yn unol â hynny, rydym yn rhoi cynlluniau ymarferol ar waith er mwyn cynnig prawf COVID-19 i’n myfyrwyr cyn toriad y Nadolig.

“Er mai niferoedd cymharol fach o’n myfyrwyr sydd wedi profi’n bositif am COVID-19, mae’r profion hyn wedi’u creu er mwyn gweld a yw’r unigolyn yn asymptomatig.  Fe allai hyn ychwanegu’n sylweddol at ymdrechion i leihau trosglwyddiad COVID-19 yn y dyfodol.

“Bydd y prawf rydym yn cynllunio i'w gynnig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhan o gynllun peilot ehangach ar gyfer profi torfol. Bydd yn cynnig y cyfle i gyfranogwyr wybod a ydyn nhw’n heintus ai peidio ar ddiwrnod eu prawf Ar sail y canlyniadau, rydyn ni eisiau galluogi unigolion i wneud y dewisiadau gorau y gallan nhw er mwyn cadw eu hunain, eu cyfeillion a’u teuluoedd yn ddiogel.” 

Mae achosion asymptomatig yn debygol iawn o ledaenu’r feirws, a gall eu hadnabod gynorthwyo i dorri’r gadwyn trosglwyddo. Mae’r dechnoleg eisoes wedi cael ei dilysu - mae cyfnodau profi clinigol eisoes wedi eu cwblhau ac mae’r llywodraeth wedi bod yn rhoi profion maes gwahanol a chynlluniau peilot ar waith er mwyn darganfod sut i ddefnyddio’r dechnoleg newydd ar raddfa eang. Gallai’r math newydd hwn o brawf COVID-19 arwain at brofi cyflymach, mwy cyffredin ledled y wlad.

Bydd y profion ar gael i holl fyfyrwyr y Brifysgol sy’n dymuno eu cymryd, ac yn cael eu darparu’n rhad ac am ddim.

Ychwanegodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion: “Bydd profi myfyrwyr heb symptomau yn eu galluogi i fynd adref dros y Nadolig gan wybod bod gyda nhw wybodaeth bellach a fydd yn eu galluogi i gadw eu teuluoedd, eu cyfeillion a’u cymunedau yn ddiogel rhag y coronafeirws. Rydyn ni’n erfyn ar gymaint o fyfyrwyr â phosibl i gymryd y cyfle i fynd am brawf.

“Os yw hyn yn llwyddiant, gobeithir y gall profi tebyg ddigwydd wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i Aberystwyth ym mis Ionawr, a fydd yn diogelu’r gymuned myfyrwyr a chymuned ehangach Ceredigion ill ddwy.”

Er bod cynllunio cyfredol y Brifysgol yn canolbwyntio ar brofi cyn i fyfyrwyr adael o’u llety tymor, maent yn dweud eu bod yn bwriadu dechrau cynllunio’n fuan er mwyn cynnig profi eto wrth i fyfyrwyr ddychwelyd yn 2021.

Gall myfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth ddod o hyd i ragor o wybodaeth drwy fynd i https://www.aber.ac.uk/cy/important-info/living-and-learning-in-aberystwyth-2020-21/students/testing-and-end-of-term-arrangements