Pennaeth Newydd Ysgol Filfeddygol Gyntaf Cymru yn siarad am ‘gyfle euraidd i’r genedl’
Yr Athro Darrell Abernethy
17 Mehefin 2020
Mae pennaeth newydd Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru yn dweud bod y datblygiad yn gyfle euraidd i genhedlaeth nesaf y genedl.
Cafodd yr Ysgol Filfeddygol newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ei lansio yn gynharach eleni, a bydd yn croesawu ei myfyrwyr cyntaf ym mis Medi 2021 mae’n cynnig ar y cyd â’r Coleg Milfeddygol Brenhinol (RVC).
Penodwyd yr Athro Darrell Abernethy wedi ei benodi yn bennaeth a chadeirydd yr ysgol newydd. Mae’n ymuno ag Aberystwyth o gyfadran Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Pretoria yn Ne Affrica.
Wrth siarad am ei rôl newydd, dywedodd yr Athro Abernethy: “Mae arwain y fenter hon a chyflawni’r weledigaeth o sefydlu ysgol filfeddygol gyntaf Cymru yn fraint. Mae’n gyfle euraidd i gael effaith gadarnhaol ar gymdeithas Cymru am genedlaethau i ddod. Am y tro cyntaf, rydyn ni’n gallu hyfforddi milfeddygon sy’n rhan mor bwysig o fywyd cefn gwlad Cymru, yma yn eu gwlad eu hunain. Hefyd, byddwn yn addysgu milfeddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, datblygiad hynod o bwysig a hir-ddisgwyliedig.
“Mae gwaith sylweddol iawn eisoes wedi cael ei gwblhau gan staff y brifysgol ac mae eu hymroddiad - ar bob lefel - i’r prosiect yn drawiadol. Mae’r gefnogaeth eang mae’r ysgol wedi ei derbyn gan y diwydiant, y llywodraeth a’r proffesiwn yn gyffrous ac yn galonogol. Fel rhywun sy’n angerddol iawn dros addysg filfeddygol, mae cwrdd ag anghenion lleol a gwneud gwahaniaeth yn ganolog i’m cenhadaeth yma yn Aberystwyth.”
Bydd yr Ysgol newydd yn cynnig gradd Baglor mewn Gwyddor Filfeddygol (BVSc) ar y cyd â’r Coleg Milfeddygol Brenhinol (RVC), un o’r ysgolion milfeddygol mwyaf blaenllaw’r byd. Bydd myfyrwyr ar y radd bum mlynedd yn treulio eu dwy flynedd gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth a thair blynedd wedi eu lleoli ar gampws Hawkshead RVC yn Swydd Hertford.
Bydd y rhaglen yn cwmpasu’r ystod lawn o anifeiliaid, o anifeiliaid anwes i anifeiliaid fferm.
Bydd y datblygiad hefyd yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio agweddau penodol o wyddor filfeddygol drwy gyfrwng y Gymraeg tra yn Aberystwyth.
Ychwanegodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Rwy’n falch iawn bod Yr Athro Abernethy, gyda'i holl arbenigedd, wedi ymuno â ni i arwain y bennod newydd bwysig a chyffrous hon yn hanes Prifysgol Aberystwyth a Chymru. Mae amaeth a’r diwydiannau sydd yn gysylltiedig yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac mae yna gyfrifoldeb arnom ni fel prifysgolion i ddarparu’r bobl a’r sgiliau a fydd yn cyfrannu at sicrhau eu bod yn llwyddo am flynyddoedd i ddod. Mae’r Ysgol Wyddor Filfeddygol newydd yn ychwanegu darn hollbwysig i’r jig-so, un a fydd yn adeiladu gwytnwch yn yr economi wledig drwy addysg ac ymchwil mewn cyfnod o heriau mawr.”
Bydd Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth yn rhan o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ac yn elwa o’r Ganolfan Addysg Filfeddygol newydd a fydd yn cael ei datblygu ar gampws Penglais.
Mae’r Ganolfan newydd yn cynrychioli buddsoddiad o £1m ac wedi ei hariannu yn rhannol gan gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr. Bydd yn barod i groesawu’r myfyrwyr cyntaf ym mis Medi 2021.
Mae’r Ysgol newydd yn adeiladu ar dros 100 mlynedd o addysgu ac ymchwil ym maes iechyd anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth ac, yn fwy diweddar, y radd BSc Biowyddorau Milfeddygol a gyflwynwyd yn llwyddiannus ym mis Medi 2015.
Yn ogystal â’r Ganolfan Addysg Milfeddygaeth, bydd myfyrwyr hefyd yn astudio mewn labordai sy’n cael eu defnyddio gan fyfyrwyr IBERS ac yn ennill profiad gwerthfawr ar ffermydd llaeth a defaid y Brifysgol, ac yng Nghanolfan Geffylau Lluest.