Parhau i fuddsoddi ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn i fyfyrwyr ddychwelyd ym mis Medi er gwaethaf ‘storm’ y pandemig

16 Mehefin 2020

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn parhau i fuddsoddi mewn prosiectau allweddol ac yn paratoi’r campws ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, er gwaethaf ‘heriau sylweddol’ ac effaith esblygol ‘storm’ y pandemig.

Yn ôl yr asesiadau mwyaf diweddar, mae’r Brifysgol wedi colli oddeutu £4 miliwn, neu 3.3% o’i throsiant blynyddol. Wrth gydnabod y bydd ei chynllunio y tymor canolig yn dibynnu ar niferoedd myfyrwyr yn y flwyddyn academaidd newydd, mae’r Brifysgol wedi mynegi nod clir i gadw swyddi ac nad oes ganddi gynlluniau am ddiswyddiadau ar hyn o bryd.

Er bod rhaglen o fesurau arbed arian wedi ei chyflwyno, mae’r Brifysgol yn bwriadu parhau i fuddsoddi. Bydd buddsoddi yn parhau mewn meysydd addysgu newydd megis gwyddorau milfeddygol a nyrsio. Yn ogystal, bydd buddsoddi er mwyn rhoi’r profiad gorau i fyfyrwyr ar y campws, wrth gynnal diogelwch myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach. 

Pwysleisiodd yr Is-Ganghellor, Yr Athro Elizabeth Treasure y byddai cynllunio cyllidebol yn dibynnu ar niferoedd myfyrwyr:

“Mae prifysgolionar draws y sectoryn amlinellusefyllfaoeddariannoldifrifoliawnynsgilyrargyfwngbyd-eang. Mae Prifysgol Aberystwyth mewnsefyllfallaiansicrnallawero brifysgolioneraillerbod yramgylchiadau, a cholliincwm, yngolygurhaiheriausylweddol.

“Mae Prifysgol Aberystwyth yn wahanol i nifer o brifysgolion eraill am dri rheswm. Yn gyntaf, rydym wedi gwneud ymdrechion sylweddol iawn i sicrhau nad yw ein costau yn fwy na’n hincwm. Yn ail, mae ein lefelau benthyca yn gymharol isel; ac yn drydydd, nid ydym wedi cyllidebu ar gyfer nifer fawr o fyfyrwyr rhyngwladol sy'n llawer llai tebygol o gyrraedd ym mis Medi.”

“Drosy misoeddnesaf, byddangeniniymatebynchwimiddigwyddiadau, ond ar sail rhagolygon presennol, rydymwedinodicynlluniaucyllidebolsy'ngosodllwybrtrwy'rstorm hon. Ac eithrio'rcytundebaudiweddtymorpenodolsy’ndodiben fely cynlluniwyd, nidoesunrhywgynlluniauargyferdiswyddiadauarhyno bryd. Fy mlaenoriaethau yw cadw swyddi a darparu adnoddau lle mae eu hangen er mwyn sicrhau bod y Brifysgol yn gweithio'n dda. 

“Mae hon ynsefyllfaddifrifol, ondrwy'nhyderusy gallwn, gyda'ngilydd, eugoresgynac adeiladuPrifysgol gryfacherbuddeinmyfyrwyr, cydweithwyra'rgymunedehangach, yrydymynrhanmorannatodohoni.”

Mae buddsoddiadau’r Brifysgol mewn seilwaith, addysgu a phrofiad myfyrwyr sy’n mynd i gael eu cynnal yn cynnwys:

  • Cwblhau adnewyddiad Neuadd Pantycelyn er mwyn croesawu myfyrwyr ym mis Medi eleni;
  • Cwblhau Campws Arloesi a Menter Aberystwyth;
  • Agor Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru yn 2021;
  • Prosiectau seilwaith megis labordai'r VetHub a Sêr Cymru;
  • Datblygu cynlluniau ar gyfer ysgol nyrsio erbyn 2022; ac
  • Ailddatblygu’r Hen Goleg erbyn 2023.