Datganiad yn dilyn lladd George Floyd
05 Mehefin 2020
Yn ystod yr wythnos ddiwethaf dysgom am amgylchiadau trasig marwolaeth George Floyd yn Minneapolis, UDA.
Dylai’r adeg hon ein hatgoffa fel unigolion ac fel prifysgol bod gennym ni, fel llawer o sefydliadau eraill, lawer iawn mwy o waith i wneud yn yr ymdrech i daclo hiliaeth, gan gynnwys hiliaeth strwythurol, yn ein cymdeithas.
Fel sefydliad addysg uwch, mae’n ddyletswydd arnom i frwydro yn erbyn anwybodaeth ac anoddefgarwch, i fodelu cynwysoldeb a chofleidio'r grym y mae amrywiaeth yn ei gynrychioli.
Mae’n rhaid i ni herio casineb a rhagfarn. Rhaid i ni beidio â derbyn apathy na difaterwch, neu fel arall rydym yn caniatáu twf casineb, rhagfarn ac anoddefgarwch.
Rydym yn cyd-sefyll gyda phawb sy'n byw mewn ofn bod lliw eu croen, hunaniaeth rhyw, ethnigrwydd neu grefydd yn eu gwneud yn darged casineb.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymroi i herio casineb, rhagfarn a hiliaeth pryd bynnag a lle bynnag y byddwn yn dod ar eu traws, ac i greu'r gymuned fwyaf gynhwysol ac amrywiol a allwn - un sy'n rhydd o wahaniaethu; un sy'n coleddu gwahaniaethau; ac un sy'n parchu pob unigolyn.
Rydym eisiau i’n myfyrwyr a’n cydweithwyr du wybod ein bod yn ymrwymedig i wrando, i drafod ac i ddysgu er mwyn sicrhau cynnydd cadarnhaol.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: divstaff@aber.ac.uk