Prifysgol Aberystwyth yn cynllunio dysgu ar ei champws ym mis Medi

Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth

Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth

01 Mehefin 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth yn bwriadu dod â myfyrwyr yn ôl i’w champws o ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf ym mis Medi.   

Nod y Brifysgol yw addasu'r campws yn ofalus fel y gellir cyflwyno cymaint o addysgu wyneb yn wyneb ag sy’n bosibl i'w ddarparu’n ddiogel.

Mae ei chynlluniau yn cynnwys:  

  • Campws sydd wedi ei baratoi ar gyfer pellhau cymdeithasol;
  • Rhaglen o weithgareddau croesawu, sy’n gynhwysol yn gymdeithasol ac yn parchu rheolau pellhau cymdeithasol;
  • Ffocws ar ddiogelwch a lles ein myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol perthnasol;  
  • Darpariaeth addysgu hyblyg ar y campws gyda dysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Dywedodd Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: 

 “Wrth i ni ddod â dysgu yn ôl i'r campws ym mis Medi, ein blaenoriaeth yw sicrhau lles a diogelwch ein myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach.  Ein nod yw cynnig profiad i fyfyrwyr yn Aberystwyth sydd mor debyg â phosibl i'r profiad ansawdd-uchel rydyn ni bob amser yn anelu at ei gyflawni. Mae hynny’n golygu cael y myfyrwyr gyda ni ar gampws sydd wedi ei addasu yn Aberystwyth, gan gynnig cymaint o addysgu wyneb yn wyneb ag sy’n bosibl i'w ddarparu’n ddiogel.

“Mae’r trefniadau manwl yn cael eu datblygu mewn cydweithrediad agos gyda chynrychiolwyr yr Undeb Myfyrwyr ynghyd â thrafodaethau gyda Chyngor Ceredigion, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid ar draws y DU. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’r awdurdodau perthnasol ar y goblygiadau ar gyfer ein myfyrwyr rhyngwladol.   Bydd yr adborth parhaus gan ein myfyrwyr, ynghŷd â phartneriaid eraill, yn hanfodol wrth i ni ddatblygu a bwrw ymlaen gyda’n cynlluniau.”

“Rydyn ni’n ffodus bod gyda ni gymuned glòs yma. Yn ogystal ag academyddion rhagorol  sy’n gofalu ar ôl eu myfyrwyr, mae gennym brofiad go helaeth o addasu addysgu mewn ffyrdd arloesol, ac arbenigwyr dysgu ar-lein. Felly, rydyn ni mewn sefyllfa gref i allu ategu at ein haddysgu gyda dysgu ar-lein wedi eu teilwra at anghenion myfyrwyr. Rydyn ni wedi ymroi i gadw at reoliadau’r llywodraeth ynghylch pellhau cymdeithasol, hyd yn oed os bydd rhaid dysgu grwpiau mwy yn ddigidol o ganlyniad i hynny.”

Mae cynlluniau yn eu lle i ddod â gwaith ymchwil yn ôl i'r campws unwaith ei bod hi’n ddiogel i wneud hynny. 

Mae Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, yn cefnogi’r cynlluniau. Ychwanegodd:  

“Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi Prifysgol Aberystwyth er mwyn galluogi myfyrwyr i ddychwelyd yn yr hydref. Mae’n bwysig i ddyfodol y Brifysgol a’r economi leol ein bod yn gallu cefnogi myfyrwyr i ddychwelyd wrth sicrhau diogelwch y boblogaeth gyfan. Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth dros y misoedd nesaf er mwyn sicrhau bod yr holl gamau diogelwch angenrheidiol yn eu lle cyn i’r myfyrwyr ddychwelyd.”