ARDDANGOSFA: Traddodiad Radical – Traddodiad Eine Radikale

Hans Saebens, Blick zur Hamme-Niederung vom Weyerberg Worpswede, c.1935−40

Hans Saebens, Blick zur Hamme-Niederung vom Weyerberg Worpswede, c.1935−40

04 Mawrth 2020

Mae arddangosfa newydd o ffotograffau o’r 1930au a’r 1940au yn yr Almaen yng nghyfnod y Natsïaid wedi agor yn Oriel yr Ysgol Gelf, Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r arddangosfa hon yn ystyried gwaith tri o ffotograffwyr cymharol anadnabyddus o’r Almaen yn yr ugeinfed ganrif – Hans Saebens (1895-1969), Hans Retzlaff (1902-1965) ac Erich Retzlaff (1899-1993).

Crëwyd eu gwaith yn ystod y 1930au a’r 1940au fel rhan o broses ‘fframio gweledol’ eang ei dosbarthiad, a ganolbwyntiai ar werinwyr yr Almaen a’u ‘Heimat’, sef eu mamwlad.

Roedd ffotograffiaeth yn offeryn canolog o ran creu ymdeimlad o hunaniaeth genedlaethol yn ystod y Drydedd Reich, ac er mwyn cael parhau â'u gwaith roedd yn rhaid i ffotograffwyr fod yn ymwybodol o ddisgwyliadau gwladwriaeth newydd Hitler, a chydymffurfio â’r disgwyliadau hynny.

Curadur yr arddangosfa yw Dr Christopher Webster van Tonder, sy’n Uwch Ddarlithydd Celfyddyd Gain a Churadur Ffotograffiaeth yr Ysgol Gelf. Fel yr eglurodd: “Ers i ffotograffiaeth gael ei dyfeisio yn 1839, mae yna gryn dystiolaeth o rym y cyfrwng i ffurfio a chyfeirio barn y cyhoedd, ynghyd â dylanwadu ar y modd y caiff gwybodaeth a syniadau eu dehongli. Eto i gyd, er gwaethaf hyn, fel cymdeithas sy’n llawn delweddau nid ydym bob amser yn gwybod llawer am y ffordd y gallai cyswllt cyson â ddelweddau effeithio arnom, ac nid ydym ychwaith yn deall yr effaith honno. Yn yr oes ‘newyddion ffug’ sy’n ein pegynnu fwyfwy, mae deall yr effaith hon a dysgu sut i amgyffred y ddelwedd yn ei chyd-destun (ni waeth pa mor gyffredin yr ymddengys) yn bwysicach nag erioed o’r blaen.

“Aeth y ffotograffwyr hynod fedrus hyn ati i ganolbwyntio ar yr wyneb, y corff a’r dirwedd, ac roedd eu dull yn adlewyrchu tueddiadau rhyngwladol mewn ffotograffiaeth ‘gelfyddydol’. Gyda delweddau syth, eglur, agos yn aml, roeddynt yn defnyddio’r technolegau ffotograffig diweddaraf o ddechrau’r ugeinfed ganrif, fel y camera Leica 35mm newydd. Eto i gyd, oherwydd perthynas y ffotograffwyr hyn â Sosialaeth Genedlaethol a’i phropaganda, nid yw’n syndod bod y ffotograffau hyn wedi cael eu hesgeuluso yn hanes ehangach y pwnc.

“Nid ffotograffau ‘niwtral’ mo’r rhain: portreadau rhamantaidd dan gochl dull dogfennol ydyn nhw. Yn y bôn, arteffactau gwleidyddol ydyn nhw â chyswllt anorfod â Thrydedd Reich Hitler.”

Mae’r arddangosfa A Radical Tradition – Eine Radikale Tradition i’w gweld yn Oriel yr Ysgol Gelf, Buarth Mawr, Aberystwyth o 2 Mawrth 2020 – 1 Mai 2020. 

Mae’r Oriel ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am tan 5pm (ar gau 10-14 Ebrill).  Croeso i bawb a mynediad am ddim.