Gŵyl lwyddiannus yn dathlu ieithoedd lleiafrifol
Eluned Morgan AC, Gweinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol a’r Iaith Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, a gyflwynodd araith agoriadol yr ŵyl a chadeirio un o'r sesiynau llawn.
09 Rhagfyr 2019
Daeth cynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau a mudiadau rhyngwladol a chyrff llywodraethol ynghyd yn Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth ar 28 a 29 Tachwedd i drafod pwysigrwydd ieithoedd lleiafrifol a brodorol, eu rôl yn eu cymunedau a sut i’w cynnal a chynyddu eu defnydd.
Roedd yr ŵyl ddeuddydd, Ein Llais yn y Byd, yn rhan o weithgareddau Llywodraeth Cymru i nodi Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO 2019.
Fel rhan o’r trafodaethau ystyriwyd yn fanwl lle’r Gymraeg fel iaith leiafrifol frodorol yn ein cymdeithas heddiw trwy gyfrwng nifer o weithdai a sgyrsiau.
Eluned Morgan AC, Gweinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol a’r Iaith Gymraeg yn Llywodraeth Cymru gyflwynodd araith agoriadol yr ŵyl a chadeirio un o'r sesiynau llawn.
Dywedodd y Gweinidog: “Mae gan y Gymraeg ran enfawr i’w chwarae ar y llwyfan byd eang, yn enwedig eleni, yn ystod Blwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n gallu dangos i'r byd yr hyn rydyn ni wedi llwyddo i'w wneud yma yng Nghymru, gan ein bod ni wedi gweld newid gwirioneddol o ran agwedd pobl yma tuag at y Gymraeg.
“Mae ganddom cymaint o brofiad y gallwn ni ei rannu gyda gwledydd eraill yng nghyd-destun ieithoedd lleiafrifol. Mae gennym nod uchelgeisiol iawn, targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond mae gennym ni strategaethau clir o ran sut rydyn ni'n mynd i gyrraedd at y nod hwnnw. Cynigiodd yr ŵyl hon, a’r trafodaethau a glywsom ynddi, gyfle i ni ystyried sut allwn rannu hanes yr iaith Gymraeg gydag eraill ar draws y byd.
“Ond mae’n debyg mai fy neges bwysicaf yw i’r rhai sy’n gallu siarad Cymraeg, ein bod yn eu hannog i’w defnyddio, ac i wneud hynny yn gyson. Gyda’n gilydd, gadewch i ni adeiladu pontydd rhwng siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg, rhwng siaradwyr Cymraeg hyderus a’r rheiny lle mae angen datblygu eu hyder a rhwng Cymru ddwyieithog a’r byd.”
Ymysg y rhai a fu’n cymryd rhan oedd yr arbenigwyr dysgu iaith Deborah McCarney a Helen Prosser, y newyddiadurwr a’r darlledwr Betsan Powys, y llenorion Alys Conran ac Eurig Salisbury a Chomisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts.
Yn ogystal gwelwyd y prosiect ‘Mamiaith’, dan ofal Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, yn cael ei lwyfannu am y tro cyntaf, cynllun cydweithredol sy’n dod â cherddorion at ei gilydd o Gymru, Iwerddon a’r Alban i archwilio a rhannu eu profiadau fel siaradwyr ieithoedd brodorol.
Ychwanegodd Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, sy'n cyflenwi sawl prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n ymwneud â throsglwyddo a defnyddio'r Gymraeg o fewn y teulu, ac a fu’n arwain sesiwn ei hun: “Mae plant yn cael mynediad at ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar ymhob math o gyd-destunau ledled y byd, felly rwy’n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn herio ein hunain i edrych ar yr hyn gaiff ei gynnig mewn gwahanol gyd-destunau rhyngwladol.
“Rydym yn awyddus i edrych ar y cyd-destun iaith leiafrifol ond hefyd i edrych ar leoliadau amrywiol lle gallwn herio ein hunain i ddarparu gwell gwasanaethau i blant ledled Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg.”
Roedd yr Athro Rhys Jones o Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn banelydd yn sesiwn gloriannu’r ŵyl,
Dywedodd yr Athro Jones: “O ran edrych yn ôl ar y ddau ddiwrnod, rwy’n credu mai’r hyn sydd wedi bod yn arwyddocaol yw’r ffordd y mae wedi dod â chymaint o wahanol elfennau ynghyd.
“Mae wedi bod yn fuddiol inni weld sut mae Cymru, mewn nifer o sefyllfaoedd, yn gwneud yn eithaf da, yn wir yn arwain yn rhyngwladol yn aml, ac yna mae sefyllfaoedd eraill lle gall Cymru ddysgu o wledydd eraill a’u profiadau o hyrwyddo eu hieithoedd brodorol.
“Yr hyn oedd yn ddifyr hefyd oedd cael y cyfle i drafod sut mae’r iaith yn cael ei defnyddio mewn swyddogaeth ffurfiol, yng nghyd-destun cynllunio iaith er enghraifft ac yna mewn cyferbyniad, i ystyried sut y gall mentrau diwylliannol ac artistig helpu i hyrwyddo iaith.
“Yr hyn y mae’r ŵyl hon wedi llwyddo i’w wneud yw dod â’r gwahanol elfennau hynny at ei gilydd a chreu ymdeimlad o hunaniaeth gyffredin ac mae wedi bod yn hynod ddiddorol gweld y synergeddau’n datblygu rhyngddynt mewn ffordd sy’n eithaf arloesol ac yn rhoi llwyfan inni adeiladu arno i’r dyfodol."
Ynghyd â Phrifysgol Aberystwyth, y prif bartneriaid oedd Llywodraeth Cymru, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.