Arddangosfa - John Duffin: Printiadau a Phaentiadau

Trenau’r Arfordir – Gorsaf Victoria gan John Duffin, ysgythriad 38 x 25 cm (15 x 10 inch)

Trenau’r Arfordir – Gorsaf Victoria gan John Duffin, ysgythriad 38 x 25 cm (15 x 10 inch)

09 Rhagfyr 2019

Cynhelir arddangosfa o waith yr arlunydd a’r gwneuthurwr print arobryn, cyfoes, John Duffin, yn Oriel Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth rhwng 9 Rhagfyr 2019 a 7 Chwefror 2020.

Mae gwaith Duffin yn canolbwyntio ar ddarlunio’r byd trefol modern ar wahanol adegau o’r dydd, ac yn cael ei ysbrydoli gan ganol y dinasoedd sydd o’i gwmpas er mwyn creu delweddau deinamig, sinematig o fywyd cyfoes.

Mae ei waith, sy’n cael ei ddylanwadu gan ffilmiau noir a nofelau graffig, yn cynnwys onglau anarferol oddi uchod, tocio sinematig ac yn awgrymu naratif y gall y gwyliwr ei ddehongli fel y myn.

Ysgythriadau ar gopr yw’r printiadau yn yr arddangosfa hon, sef proses sy’n addas ar gyfer senarios goleuedig ddramatig printiadau Duffin; mae’r broses hirfaith yn cynnwys tynnu nodwydd finiog drwy dir caled er mwyn datguddio’r plât copr, gan adael i’r asid frathu’r metel er mwyn creu’r llinelliadau ar ôl rhoi inc ar y print a’i brintio. Mewn cyferbyniad â phaentiadau lliwgar, tanbaid Duffin, mae’r printiadau mewn inc du ar bapur gwyn llachar sy’n peri cyferbyniad deinamig rhwng y cysgodion a’r goleubwyntiau.  

Ganwyd Duffin yn Cumbria yn 1965, a’i hyfforddi yn Ddrafftsmon ac yn Bensaer Llongau yn Barrow-in-Furness, cyn astudio Celfyddyd Gain yng Ngholeg Goldsmiths yn Llundain, ac ennill gradd MA mewn Gwneud Printiadau yn Central St Martins.

Mae e’n aelod o Gymdeithas Frenhinol yr Arlunwyr a Gwneuthurwyr Print ac arddangoswyd ei brintiadau yn Arddangosfa Haf yr Academi Frenhinol yn rheolaidd am yr 20 mlynedd diwethaf, a chynhaliodd sawl arddangosfa ar ei ben ei hun ac mewn grwpiau.

Enillodd lawer o wobrau am ei baentiadau a’i brintiadau, yn fwyaf amlwg Gomisiwn Rhwydwaith De-ddwyrain Pont Blackfriars yn 2009 (pan atgynhyrchwyd ei baentiad o Bont Blackfriars a’i arddangos ar y bont am flwyddyn) a’r ‘Wobr am y Print Mwyaf Eithriadol’ gan Syr Peter Blake RA.

Gwelir ei waith mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat ac mae’n apelio at gynulleidfa eang.

Mae John Duffin: Prints and Paintings yn Oriel yr Ysgol Gelf, Buarth Mawr, Aberystwyth rhwng 9 Rhagfyr 2019 a 7 Chwefror 2020. Mae’r Oriel ar agor o ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10yb tan 5yp (ar gau 23 Rhagfyr - 6 Ionawr). Croeso i bawb a mynediad am ddim.