Darlith Gyhoeddus: Cymru, yr Arglwydd Davies, a’r Byd
Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes a Hanes Cymru
02 Rhagfyr 2019
Un o Gymry mwyaf yr 20fed ganrif fydd testun darlith olaf dathliadau canmlwyddiant yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn ei ddarlith, ‘Re-inventing the World: Lord David Davies and International Politics’, bydd Dr Jan Ruzicka yn sôn am yr Arglwydd David Davies a’i ymdrech i ail-lunio gwleidyddiaeth ryngwladol yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd y ddarlith yn datgelu cyfraniad unigryw y dyn pwysig hwn ym mywyd cyhoeddus Cymru a Phrydain tuag at adeiladu byd mwy heddychlon a theg.
Cofir yn bennaf am yr Arglwydd Davies fel diwydiannwr a sylfaenydd (gyda’i chwiorydd Gwendoline a Margaret) yr adran gyntaf yn y byd i astudio gwleidyddiaeth ryngwladol yn Aberystwyth.
Ond cafodd effaith fwy pellgyrhaeddol o lawer ar Gymru, Prydain a’r byd ehangach.
Roedd yr Arglwydd Davies, a fu’n AS Sir Drefaldwyn am gyfnod hir ac yn Ysgrifennydd Preifat i’r Prif Weinidog David Lloyd George, hefyd yn sylfaenydd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd ac yn hyrwyddwr diflino o’r heddlu rhyngwladol. Yn y 1930au, bu’n cydweithio â Winston Churchill i feirniadu dyhuddiad.
Meddai’r Athro Ken Booth o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: “Heb os, David Davies yw un o weledyddion pwysicaf yr 20fed ganrif nad yw ei ddylanwad wedi’i gydnabod yn llwyr. Gellir olrhain llawer o’r prif sefydliadau yn ein byd ni heddiw mewn rhyw ffordd i’r syniadau a hyrwyddwyd gan yr Arglwydd Davies. Wrth i Gymru geisio torri’i chwys ei hun yn rhyngwladol, byddai’n dda gwybod mwy am yr hyn a gyflawnwyd yn y gorffennol a sut gallwn ddysgu ohono ar gyfer y dyfodol. Mae Dr Ruzicka wedi gwneud gwaith ymchwil helaeth i ddatgelu gwaith diflino yr Arglwydd Davies, felly mae mewn lle da i siarad am ei gyfraniad unigryw i Gymru, y DU a thu hwnt.”
Mae Dr Ruzicka yn Gyfarwyddwr Sefydliad Coffa David Davies ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gwasanaethodd yn ogystal fel Cyfarwyddwr Dathliadau’r Canmlwyddiant yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Cefnogwyd ei waith ymchwil ar yr Arglwydd Davies gan Wobr Solomon Gursky o Sefydliad Teulu Ruzicka a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Cynhelir y ddarlith ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes a Hanes Cymru, gan ddechrau am 6yh ddydd Iau, 5 Rhagfyr. Bydd derbyniad â diodydd am 5.30yh. Mynediad yn rhad ac am ddim a chroeso i bawb.