Philomusica i berfformio teyrnged i Syr Henry Walford Davies ar achlysur ei ganmlwyddiant

Philomusica

Philomusica

28 Tachwedd 2019

Ddydd Sadwrn, 7 Rhagfyr bydd cerddorfa symffonig Aberystwyth, Philomusica, ar lwyfan y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth i nodi canmlwyddiant o bwys ym myd cerddoriaeth, yn Aberystwyth ac yng Nghymru.

Gan mlynedd yn ôl, penodwyd Syr Henry Walford Davies KCVO OBE (1869–1941) yn Athro Cerddoriaeth cyntaf Gregynog yn Aberystwyth ac yn Gyfarwyddwr cyntaf Cyngor Cerdd Cenedlaethol Cymru.

Bydd Philomusica yn dathlu’r achlysur drwy berfformio agorawd 1899 Davies, Welshman in London.  Arweinir y gerddorfa gan Gyfarwyddwr Cerdd Prifysgol Aberystwyth, Dr David Russell Hulme, sydd wedi paratoi golygiad newydd o’r sgôr o lawysgrif y cyfansoddwr.

Ganwyd Henry Walford Davies i deulu cerddorol yng Nghroesoswallt yn 1869, a mynd i’r Coleg Cerdd Brenhinol i astudio cyfansoddi gyda Hubert Parry a Charles Stanford cyn dod yn gyfansoddwr amlwg ac yn gerddor eglwys.

Bu’n organydd yn Temple Church Llundain rhwng 1898 a 1917. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cerdd cyntaf y Llu Awyr Brenhinol (RAF), a dyfarnwyd iddo’r OBE yn 1919 am y gwaith hwn.

Yr un flwyddyn, derbyniodd Davies – a oedd yn ei eiriau ei hun yn ‘un deuddegfed o Gymro’ – swydd athro cerdd yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth, ynghyd â swydd Cyfarwyddwr cyntaf Cyngor Cerdd Cenedlaethol Cymru. Yn y swyddi hyn, yn ôl ei fywgraffydd Henry Ley, “llafuriodd Davies yn ddi-baid dros oleuo’r dywysogaeth yn gerddorol.”

Mae David Russell Hulme yn egluro: “Roedd Davies yn ddewis cryf, ac nid oherwydd ei gymwysterau cerddorol yn unig. Roedd ganddo ddawn i feithrin cysylltiadau da ac roedd yn gyfathrebwr arbennig o ddarbwyllol, a aeth yn ei flaen i arloesi drwy ddarlledu cerdd i ysgolion ac ar gyfer, yn ei eiriau ei hun, ‘y gwrandäwr cyffredin.’ Ymhlith ei gylch cyfeillion personol roedd y Prif Weinidog Lloyd George a mandarin y gwasanaeth sifil, Thomas Jones (‘TJ’). Er mor rhyfeddol y mae’n ymddangos bellach, cyfarfu’r tri yn 10 Stryd Downing i drafod y ffordd ymlaen ar gyfer cerddoriaeth yng Nghymru!

“Roedd cyfeillgarwch Walford â chwiorydd Davies Gregynog, wyresau’r entrepreneur peirianneg David Davies o Landinam, yn hanfodol. A hwythau’n arbennig o gyfoethog ac yn ymroi’n llwyr i gefnogi’r celfyddydau yng Nghymru, rhoesant yr arian ar gyfer cadair Gregynog a chefnogi Walford i’r eithaf.

“Yn ystod blynyddoedd Henry Walford Davies yn Aberystwyth, cynhaliai ensembles siambr preswyl – y cyntaf i’w cyflogi mewn unrhyw brifysgol – gyngherddau mewn cymunedau gwledig ar hyd a lled Cymru, datblygwyd dysgu offerynnol mewn ysgolion, ffurfiwyd Cerddorfa Symffonig Cymru ac roedd gwyliau mawr yn ffynnu yn Aberystwyth, y Drenewydd, Harlech, Gregynog ac mewn mannau eraill.

“Roedd llawer o brif gerddorion Prydain yn gysylltiedig â hyn – Elgar, Vaughan Williams, Holst, a Boult. Teithiodd Bartok o Fwdapest i roi ei ddatganiad cyntaf ym Mhrydain yn Neuadd y Plwyf Aberystwyth (Theatr y Castell bellach) a gwelodd Rachmaninoff y machlud o Westy Brenhinol Belle Vue.”

Cafodd Henry Walford Davies ei urddo’n farchog yn yr anrhydeddau ar achlysur ymddeoliad Lloyd George yn 1922, a chadarnhawyd ei statws sefydliadol ymhellach pan benodwyd ef yn Feistr Cerdd y Brenin yn dilyn marwolaeth Elgar yn 1934.

Rhoddodd y gorau i’w swydd yn Aberystwyth yn 1926, ond parhaodd i arwain y Cyngor Cenedlaethol tan ei farwolaeth yn 1941.

Cynhelir y perfformiad o agorawd 1899 Henry Walford Davies, Welshman in London gan Philomusica am 8yh nos Sadwrn 7 Rhagfyr yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Yn ystod y cyngerdd ceir hefyd ddatganiad o gyfres Firebird Stravinsky, concerto Thaikovsky i’r ffidil gyda’r unawdydd Tom Mathias, Huapango Moncayo a The Fall of the Leaf Finzi.

Gellir prynnu tocynnau o’r Swyddfa Docynnau, gyda’r tocynnau pris llawn yn £12 a’r tocynnau i fyfyrwyr yn £3.50 yn unig - 01970 623232 / www.aberystwythartscentre.co.uk.

Bydd Dr Rhian Davies yn rhoi sgwrs cyn cyngerdd ar Henry Walford Davies a'i waith yn Sinema Canolfan y Celfyddydau am 6.30pm.