Cyfleusterau astudio newydd o’r radd flaenaf i fyfyrwyr

Is-Ganghellor Yr Athro Elizabeth Treasure gyda David Allen OBE, Cadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn torri’r rhuban er mwyn agor yn swyddogol Ystafell Astudio Iris De Freitas, sydd newydd ei hadnewyddu, ar Gampws Penglais, Prifysgol Aberystwyth, 27 Tachwedd 2019

Is-Ganghellor Yr Athro Elizabeth Treasure gyda David Allen OBE, Cadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn torri’r rhuban er mwyn agor yn swyddogol Ystafell Astudio Iris De Freitas, sydd newydd ei hadnewyddu, ar Gampws Penglais, Prifysgol Aberystwyth, 27 Tachwedd 2019

28 Tachwedd 2019

Cafodd dwy ardal astudio sydd wedi’u hadnewyddu’n llwyr ar Gampws Penglais eu hagor yn swyddogol gan David Allen OBE, Cadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn ystod ymweliad â Phrifysgol Aberystwyth ddydd Mercher 27 Tachwedd 2019.

Mae’r ystafelloedd trawiadol – y naill yn theatr ddarlithio fawr, a’r llall yn ystafell astudio ar gyfer grwpiau – yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf a gynlluniwyd drwy ymgynghori â’r myfyrwyr.

Yn theatr ddarlithio C22 yn Adeilad Hugh Owen, sy’n dal 180 o seddi, mae seddi a charpedi newydd sbon, system glyweledol gyfredol, system oleuo LED ddeallus a socedi plwg/USB, ac mae’r ystafell wedi cael ei weirio a’i haddurno o’r newydd.

Gosodwyd system wresogi, oeri ac awyru newydd, ac mae’n haws i bobl ag anableddau gyrraedd yno, a cheir gwell acwsteg.

Yn Llyfrgell Hugh Owen, mae ystafell Iris De Freitas hefyd wedi’i hadnewyddu’n llwyr.

Ceir golygfeydd trawiadol o Fae Ceredigion o’r ystafell a enwyd ar ôl merch i fasnachwr yng Ngiana Brydeinig a fu’n astudio’r gyfraith yn Aberystwyth yn y 1920au, ac a aeth yn ei blaen i fod y gyfreithwraig fenywaidd gyntaf yn y Caribi,

Buddsoddwyd £900k, ac mae’r ystafell newydd yn ardal astudio grŵp groesawgar a chyfforddus i fyfyrwyr.

Mae nenfwd crwm newydd yn cynnig teimlad o uchder ac mae ystafelloedd astudio gwydr yn gwneud gwell defnydd o’r ardal. Mae’r ystafell hefyd wedi’i hailweirio’n llwyr, ei hailaddurno ac mae carpedi newydd wedi’u gosod ynddi.

Ceir hefyd well system wresogi ac insiwleiddio er mwyn gwella effeithiolrwydd ynni, a ffenestri newydd sy’n agor yn awtomatig i oeri ac awyru.

Yn ogystal â dodrefn a chyfrifiaduron newydd yn yr ardaloedd astudio, crëwyd ardal i eistedd ac ymlacio ynddi, gyda pheiriannau bwyd a diod a thoiledau niwtral o ran y rhywiau.

Y cyffyrddiad olaf yw system oleuo ddeallus LED, yn cynnwys goleuadau sy’n newid lliw.

Wrth dorri’r rhuban i ddatgan bod y cyfleusterau newydd bellach ar agor yn swyddogol, dywedodd David Allen OBE, Cadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru: “Mae buddsoddi yn y cyfleusterau hyn yn fuddsoddiad ym mhrofiad y myfyrwyr. Gall y myfyrwyr cyfredol elwa o’r amgylchedd dysgu modern, a bydd darpar fyfyrwyr yn cael eu denu gan yr ardal hygyrch a chyfoes hon.

“Ar ran Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, rwy’n falch o gael agor ystafell astudio Iris De Freitas a theatr ddarlithio C22.  Heddiw, gwelwn effaith buddsoddi cyfalaf da ar fywyd go-iawn, drwy sicrhau bod gan ein myfyrwyr fynediad at gyfleusterau modern, a bod ein prifysgolion yn gallu cystadlu’n llwyddiannus mewn marchnad gystadleuol.

“Rwy’n ddiolchgar i Brifysgol Aberystwyth a’r Athro Elizabeth Treasure am fy ngwahodd i agor yr ardaloedd hyn heddiw, ac rwy’n hyderus y byddant yn gwasanaethu’r Brifysgol, ei staff a’i myfyrwyr yn dda yn y blynyddoedd sydd i ddod.”

Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure, wrth siarad yn ystod y seremoni agoriadol: “Mae’n bleser mawr cael gweld y cyfleusterau addysgu ac astudio hyn sydd newydd eu hadnewyddu yng nghanol Campws Penglais. Mae ein Prifysgol yn enwog am y profiad rhagorol y mae’n ei gynnig i fyfyrwyr, ac rydym wrthi’n buddsoddi’n sylweddol ar hyn o bryd er mwyn creu amgylchedd dysgu a byw y gallwn ymfalchïo ynddo.

“Trwy gydol y broses gynllunio ar gyfer theatr ddarlithio C22 ac ystafell astudio Iris de Freitas, gofynnwyd am sylwadau ac adborth gan ein myfyrwyr drwy arolygon, byrddau awgrymiadau a grwpiau ffocws, a wnaeth sicrhau bod yr ardaloedd newydd wedi’u cynllunio ag anghenion myfyrwyr yr unfed ganrif ar hugain yn flaenllaw yn y meddwl.

“Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru am ddarparu’r cyllid cyfalaf ar gyfer adnewyddu ystafell astudio Iris de Freitas, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’n tîm Prosiectau Ystadau a Gwasanaethau Gwybodaeth am reoli’r prosiectau, ac i’r contractwyr adeiladu lleol, LJV Construction Cyf a LEB Construction Cyf, a gyflawnodd y gwaith.”

Theatr ddarlithio C22 

Ystafell astudio Iris De Freitas