Lansio cod urddas a pharch

19 Tachwedd 2019

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi lansio codurddas a pharch newydd i fyfyrwyr, sy’n dangos ei hymrwymiad i sicrhau diogelwch a lles ei myfyrwyr.

Mae’r cod yn manylu ar gyfrifoldeb pob un myfyriwr i sicrhau urddas a pharch eraill ym mhob gweithgaredd sefydliadol, ac yn pennu eu hawliau os ydynt o’r farn nad ydynt hwythau yn cael eu trin ag urddas a pharch.

Datblygwyd y cod gan dîm o staff o’r Brifysgol, ar y cyd ag Undeb Myfyrwyr Aberystwyth (UMAber).

Yn ogystal â’r cod, datblygwyd ffurflenadrodd ar-lein, sy’n galluogi myfyrwyr i roi gwybod am achosion o ymddygiad annerbyniol yn eu herbyn, neu achosion y buont yn dyst iddynt fel trydydd parti. 

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, bydd y Brifysgol yn cydweithio â Chymorth i Ferched Cymru i roi Menter ‘Paid â Chadw’n Dawel’ (Bystander Intervention Initiative) ar waith ar y campws.  Mae’r fenter yn helpu myfyrwyr gwrywaidd a benywaidd i adnabod aflonyddu a cham-drin rhywiol, ac yn rhoi’r sgiliau a’r hyder iddynt ymateb yn briodol.   Mae’n edrych hefyd ar arferion diwylliannol newidiol sy’n esgusodi rhagfarn ar sail rhyw ac aflonyddu.

Mae’r Brifysgol hefyd yn bartner ymgyrch ‘Dim Esgusodion’ UMAber, sy’n anelu at roi hyder i bobl beidio â chadw’n dawel ac i gymryd camau yn erbyn bwlio, aflonyddu, troseddau casineb, ymosodiadau rhywiol a mathau eraill o ymddygiad annerbyniol.

Dywedodd Caryl Davies, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd: “Mae gan bob un o’n myfyrwyr hawl i gael eu trin ag urddas a pharch, ac mae cod urddas a pharch newydd y Brifysgol i fyfyrwyr, y ffurflen adrodd ar-lein, a rhaglenni eraill fel y Fenter ‘Paid â Chadw’n Dawel’ a ‘Dim Esgusodion’ yn gymorth inni sicrhau amgylchedd dysgu sy’n cyfoethogi bywydau, heb aflonyddu na bwlio.”