Enillydd Gwobr Heddwch Nobel i draddodi Darlith Flynyddol Kenneth N Waltz
Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes a Hanes Cymru
29 Hydref 2019
‘International Politics is alive and well (despite reports to the contrary)’ yw teitl Darlith Flynyddol Kenneth N Waltz eleni, ac fe'i cynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau, 31 Hydref.
Mae’r achlysur yn rhan o Gyfres yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Siaradwyr y Canmlwyddiant, a Beatrice Fihn, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Ymgyrch Ryngwladol i Ddileu Arfau Niwclear (ICAN) fydd yn traddodi.
Trwy ei gwaith gyda'r Ymgyrch, gyda Chynghrair Iechyd a Rhyddid Rhyngwladol y Merched, a Chanolfan Genefa i Bolisi Diogelwch, mae gan Ms Fihn ddegawd a mwy o brofiad ym maes diplomyddiaeth diarfogi a symudiadau cymdeithas sifil. Mae hi wedi ysgrifennu'n helaeth ynglŷn â chyfraith arfau, ymwneud cymdeithas sifil mewn diplomyddiaeth a sefydliadau amlochrog, ac agweddau'r rhywiau ynghylch gwaith diarfogi.
Mae ganddi radd Meistr yn y Gyfraith o Brifysgol Llundain a gradd Baglor mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Brifysgol Stockholm.
Yn 2017, derbyniodd Wobr Heddwch Nobel ar ran yr Ymgyrch am y gwaith a wnaed ganddynt 'yn tynnu sylw at ganlyniadau dyngarol trychinebus defnyddio unrhyw arfau niwclear ac am eu hymdrechion arloesol i wahardd arfau o'r fath ar sail cytuniad'.
Wrth edrych ymlaen at y ddarlith, meddai Ken Booth, Athro Ymchwil Nodedig yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: “Nid yn aml y cawn y cyfle yn Aberystwyth i wrando a thrafod ag unigolyn mor amlwg yn fyd-eang. Mae Beatrice Fihn yn bwriadu siarad am y prosesau a'r prosiectau rhyngwladol sy'n llwyddo, ac am y ffordd y mae newid yn dal i gael ei yrru yn ei flaen gan weithrediadau a sefydliadau rhyngwladol. Mae'r rhain yn ddadleuon gwirioneddol heriol mewn cyfnod o besimistiaeth gyffredinol am gyflwr y byd. Bydd y ddarlith yn tynnu sylw hefyd at y rhan sydd gan fenywod yn arwain y newidiadau a defnyddio'r tirlun rhyngwladol.
Cynhelir darlith Beatrice Fihn, ‘International Politics is alive and well (despite reports to the contrary)’ ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes a Hanes Cymru am 6pm, nos Iau 31 Hydref 2019. Mynediad AM DDIM ac mae croeso i bawb.
Y ddarlithydd nesaf yng Nghyfres Siaradwyr y Canmlwyddiant fydd Yr Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor - Ymchwil, Trosglwyddo Gwybodaeth ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth, a'i destun fydd 'Beyond the NHS? Global health and international politics’, ar 27 Tachwedd 2019.