Arbenigwr ym maes llenyddiaeth Ffrangeg yr oesoedd canol i draddodi Darlith Goffa’r Athro David Trotter
Yr Athro Marianne Ailes
23 Hydref 2019
Yr Athro Marianne Ailes o Brifysgol Bryste fydd yn traddodi pedwaredd Darlith Goffa Flynyddol yr Athro David Trotter ddydd Gwener 1 Tachwedd 2019 ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yr Adran Ieithoedd Modern sy’n gyfrifol am gynnal a chroesawu’r ddarlith goffa, a’r teitl eleni yw ‘What did the English give the French? Anglo-Norman on the Continent’.
Mae’r Athro Ailes yn arbenigo ym maes llenyddiaeth Ffrangeg yr oesoedd canol, gan gynnwys llenyddiaeth Ffrangeg yr oesoedd canol yn Lloegr. Mae ganddi ddiddordeb penodol yn y chansons de geste a’r croniclau cynhenid cynnar, yn enwedig hanesion y croesgadau. Yn ogystal ag astudiaethau deongliadol, mae hi’n weithgar iawn fel golygydd a chyfieithydd.
Roedd yr Athro David Trotter yn awdurdod rhyngwladol cydnabyddedig ar iaith a geiriaduraeth Ffrangeg ac yn gyn-lywydd y Société de Linguistique Romane ac yn aelod gohebol o’r Académie des Inscriptions et Belles-Lettres ym Mharis.
Yn raddedig o Queen’s College Rhydychen, ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth ym 1993 a bu’n Athro Ffrangeg a Phennaeth yr Adran Ieithoedd Modern am ddau ddegawd a mwy.
Dywedodd Dr Guy Baron, Pennaeth Adran Ieithoedd Modern Prifysgol Aberystwyth: “Roedd yr Athro Trotter yn academydd arbennig ac mae ei ddylanwad yn parhau hyd heddiw ar ffurf Prosiect y Geiriadur Eingl-Normanaidd a dderbyniodd arian gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Arweiniodd yr Adran Ieithoedd Modern am flynyddoedd lawer a roedd yn academydd doeth ac uchel ei barch a chanddo synnwyr digrifwch na chafodd erioed ei golli o fewn y bywyd academaidd.”
Cynhelir Darlith Goffa Flynyddol yr Athro David Trotter 2019 am 6pm ddydd Gwener 1 Tachwedd yn darlithfa C22, Adeilad Hugh Owen, Campws Penglais. Fe’i dilynir am 7pm gan dderbyniad diodydd am ddim ym mar Theatr y Werin Bar yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth.
Mynediad am ddim ac mae croeso cynnes i bawb.