Cyflwyno ysgoloriaethau Peter Hancock
O’r chwith i’r dde: Enillwyr Ysgoloriaeth Peter Hancock 2019 Chiara Faini, Elizabeth Harrison, Wiktor Gawronski, Amy-Anne Williams, a Fatima Orujova.
11 Hydref 2019
Cyhoeddwyd enillwyr diweddaraf ysgoloriaeth sy’n arddel enw cyn-fyfyriwr a dderbyniodd gefnogaeth ariannol gan Brifysgol Aberystwyth dros hanner canrif yn ôl.
Yn 1961, dyfarnwyd ysgoloriaeth i Peter Hancock a’i galluogodd i gwblhau’n llwyddiannus ei radd mewn Daeareg a’i osod ar ben ffordd am yrfa academaidd a busnes fyd-eang llewyrchus.
Mewn cydnabyddiaeth o’r cymorth a dderbyniodd, rhoddodd Peter a’i bartner Pat Pollard, sydd hefyd yn raddedig o Aber, fwy na £500,000 i’r Brifysgol yn 2015.
Gyda'r arian, sefydlodd y Brifysgol Ysgoloriaeth Peter Hancock ar gyfer myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf sy’n dangos uchelgais a photensial mawr, ac a fyddai’n elwa o gymorth ariannol, fel y gwnaeth Peter ei hun dros hanner can mlynedd yn ôl.
Mewn derbyniad a gynhaliwyd ddydd Llun 7 Hydref gan yr Is-Ganghellor, Yr Athro Elizabeth Treasure, cyflwynwyd gwobrau i enillwyr ysgoloriaeth Peter Hancock 2019; Chiara Faini, Witkor Gawronski, Elizabeth Harrison, Fatima Orujova ac Amy-Anne Williams.
Dywedodd yr Athro Treasure: “Ar ran Peter a Pat, mae’n bleser gallu gwobrwyo enillwyr Ysgoloriaeth Peter Hancock eleni. Dymunaf bob llwyddiant iddynt ar ddechrau eu blwyddyn olaf gyda ni, ac rwy’n mawr obeithio y bydd y gefnogaeth maent wedi’i dderbyn yn sgil haelioni Peter a Pat, yn gam pwysig i fyd o gyfleoedd, fel ag y bu i Peter yr holl flynyddoedd yn ôl.”
Mae gan Brifysgol Aberystwyth hanes hir o gyfraniadau dyngarol, ac wrth roi’r rhodd hael hon, mae Peter a Pat wedi eu croesawu i Gylch Cyfrannu’r Is-Ganghellor, a sefydlwyd i gydnabod ac i ddiolch am gefnogaeth barhaus ein rhoddwyr ledled y byd.
Ychwanegodd yr Athro Treasure: “Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth ragorol ein cyn-fyfyrwyr yn fawr iawn, llawer ohonynt yn gwneud hynny’n ariannol fel Peter a Pat, ond hefyd yn ymarferol fel y mae cymaint yn ei wneud o ddydd i ddydd. Mae eu cyfraniadau yn cyfoethogi bywydau ein myfyrwyr presennol mewn cymaint o ffyrdd ac yn cyfrannu at y profiad myfyrwyr rhagorol y mae’r Brifysgol yn ei gynnig.”
Ar adeg sefydlu’r gronfa, dywedodd Peter: "Yr elfen allweddol wrth gyflwyno’r rhodd hon yw rhoi rhywbeth yn ôl i fywyd myfyriwr ac i’r Brifysgol a roddodd, dros hanner canrif yn ôl, gymaint i mi yn academaidd, yn gymdeithasol a datblygu fy sgiliau arweinyddiaeth a busnes. Ar yr un pryd, rwy’n gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth drwy ddarparu ysgoloriaethau i fyfyrwyr addawol sydd mewn angen, er mwyn eu galluogi i ddechrau gyrfaoedd gwerth chweil sy'n cyfrannu at gymdeithas ac felly, yn eu tro, yn helpu eraill."
Mae Ysgoloriaeth Peter Hancock, sy’n werth hyd at £4,200 i bob myfyriwr, yn galluogi enillwyr i elwa ar fentor profiadol a chefnogol a neilltuwyd o blith teulu cyn-fyfyrwyr Aberystwyth.
Dyfernir yr ysgoloriaeth i “fyfyrwyr teilwng, anghenus blwyddyn 2 anrhydedd neu gyfwerth mewn unrhyw ddisgyblaeth ac o unrhyw genedl sy’n dangos potensial i fod o fudd i gymdeithas drwy gwblhau eu Graddau Anrhydedd neu gyfwerth yn llwyddiannus.”
Hyd yn hyn mae 21 myfyriwr wedi derbyn Ysgoloriaeth Peter Hancock. Ceir rhagor o fanylion a sut i wneud cais am yr ysgoloriaeth ar-lein yma.