Gŵyl Dysgu Agored
24 Medi 2019
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol, dysgu rhywbeth cyffrous, gwella eich sgiliau, cwrdd â ffrindiau newydd a gwneud rhywbeth sydd yn llesol?
Os felly, gallai Gŵyl Ddysgu Prifysgol Aberystwyth fod yn union yr hyn sydd ei angen arnoch.
Trefnir y digwyddiad gan adran Dysgu Gydol Oes y Brifysgol, a chaiff ei chynnal rhwng 3 a 7 o'r gloch brynhawn Mercher 25 Medi 2019 yn Adeilad Elystan Morgan ar Gampws Llanbadarn y Brifysgol.
Mae’r Ŵyl yn cynnig sesiynau blasu 40 munud am ddim ar draws ystod eang o bynciau ac mae croeso i ymwelwyr alw heibio unrhyw sesiwn neu aros am y bedair awr lawn.
Dywedodd Dr Calista Williams, Cydlynydd Dysgu Gydol Oes: “Mae ein Gŵyl ddwywaith y flwyddyn yn boblogaidd iawn gyda phobl leol a myfyrwyr y Brifysgol. Rydym yn cael llawer o hwyl a chwerthin bob tro. Caiff ymwelwyr gyfle i roi cynnig ar y Jenga mawr, gwylio arddangosiad peintio a gweld y cyfleusterau addysgu gwych sydd yma. Mae’n gyfle i gwrdd â’r tiwtoriaid, siarad â’r dysgwyr eraill, rhoi cynnig ar bwnc newydd, a chofrestru ar gyrsiau. Mae dysgwyr sy’n mynychu’r Ŵyl yn dweud ei fod yn help i ddewis y cwrs iawn.”
Mae sesiynau’r Ŵyl yn cynnwys:
- Y byd i gyd mewn gronyn o dywod – beth yw tywod traeth; o ble mae’n dod ac i ble mae’n mynd?
- Beth ydych am ei ysgrifennu?
- Gwneud Maquettes: Sut mae cerflunwyr yn dechrau
- Pam dysgu iaith?
- Cipio Golau’n Greadigol
- Mae rhywbeth arbennig am fawndiroedd Cymru!
- Cyflwyniad i gynhanes Aberystwyth
- ‘Dim Pleidlais i Fenywod – Dim Cyfrifiad’: Sut defnyddiwyd y cyfrifiad i wneud datganiad gwleidyddol
- Celf wisgadwy
- Sgiliau gwrando gweithredol
Mae adeilad Elystan Morgan ar Gampws Llanbadarn (SY23 3AS). Mae digon o le i barcio, mynediad da i bobl ag anabledd a theclynnau clywed mewn dosbarthiadau.
Mae adran Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth yn cynnig ystod eang o gyrsiau o Ysgrifennu sgriptiau i Fywyd Llonydd, Amrywiaeth Planhigion i Lunio Portreadau, Hanes Lleol i Gerfluniau Helyg Byw, a Ffrangeg i Seicoleg Fforensig.
Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen yr adran ar-lein neu cysylltwch ar 01970 621580 /learning@aber.ac.uk.
Wedi’i sefydlu yn 1919, Adran Astudiaethau Efrydiau Allanol Prifysgol Aberystwyth, fel y’i gelwid yn wreiddiol, oedd yr adran gyntaf o’r fath yng Nghymru, a’r hynaf ond un yn y DU.
I ddathlu ei phen-blwydd yn gant oed, mae’r Adran Dysgu Gydol Oes yn cynnig gostyngiadau arbennig – am fwy o wybodaeth ewch i https://www.aber.ac.uk/cy/lifelong-learning/100