Adnabod George Powell Nanteos drwy ei gerfluniau efydd
Cerfluniau efydd gan Emile Louis Picault 1833-1915) o gasgliad George Powell o Nanteos.
13 Medi 2019
Mae cynllun cyffrous newydd rhwng Prifysgol Aberystwyth, ArtUK a Fforwm Cymunedol Penparcau am archwilio casgliad cerfluniau George Powell Nanteos.
Daw’r prosiect o ganlyniad i grant a ddyfarnwyd gan ArtUK fel rhan o raglen Sculpture Around You sy’n ceisio cysylltu cymunedau â’u treftadaeth gerfluniol.
Fe etifeddodd George Powell (1842-1882) ystâd Nanteos ar ôl marwolaeth ei dad yn 1878.
Cyn hynny roedd yn byw yn Llundain ac yn teithio o amgylch Ewrop a Gogledd Affrica.
Gwnaeth gysylltiadau ag artistiaid, awduron a cherddorion amrywiol ledled Ewrop ac un o’i ffrindiau agosaf oedd y bardd Algernon Charles Swinburne.
Yn ystod yr amser yma adeiladodd gasgliad o gerfluniau bach efydd, ffigurau mytholegol a dynion noeth.
Mae rhai o gyfnod y Dadeni, eraill o’r 18fed neu’r 19eg Ganrif yn gopïau o’r gwreiddiol o gyfnod y Dadeni a rhai yn ddarnau cyfoes a wnaed gan gerflunwyr adnabyddus o’u hamser.
Yn eu plith mae On the sea shore (1877) (dynes ddu sy’n gaethwas) gan John Bell (1812-1895), Pan gan Jean Baptiste Clésinger (1814-1883) a Bacchus gan Victoriano Codina-Länglin (1844-1911).
Fe adawodd Powell ei gasgliad o ddarnau efydd i Brifysgol Aberystwyth yn 1882, ac maent erbyn hyn yn rhan o gasgliad Amgueddfa a Galerïau’r Ysgol Gelf.
Bydd y prosiect yn dod â grŵp o drigolion Penparcau ynghyd i archwilio Powell fel cymeriad drwy ei gerfluniau.
Bydd y grŵp yn ymweld â Nanteos a’r Ysgol Gelf cyn cychwyn ar brosiect creadigol cerfluniau digidol a fydd yn eu harwain at fodelau 3D wedi eu hargraffu.
Mae ArtUK wedi comisiynu’r ymgynghorydd amgueddfa Alex Flowers i helpu i ddatblygu’r gwaith digidol cyffrous a fydd yn ennyn diddordeb cyfranogwyr yn eu hanes lleol.
Bydd y prosiect yn gorffen gydag arddangosfa a digwyddiad lansio.
I ddysgu mwy am y prosiect cysylltwch â Phil Garratt ar pjg@aber.ac.uk