Prifysgol Aberystwyth ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol

02 Awst 2019

‘Cymru, Ewrop a Llanrwst’, y blaned Mawrth, hel atgofion am Bantycelyn ac adfywio’r Gymraeg, dyma fydd rhai o’r themâu fydd yn cael eu trafod fel rhan o raglen Prifysgol Aberystwyth yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, Sir Conwy yn ystod yr wythnos sydd i ddod.

Mi fydd rhywbeth at ddant pawb ar stondin y Brifysgol yn ystod yr ŵyl, cyfle i fwynhau rhai o uchafbwyntiau’r wythnos ar sgrîn fawr, a phiano i’r rhai sydd angen ymarfer munud olaf cyn cystadlu.

Yn ogystal mi fydd y Brifysgol i’w gweld yn y Babell Wyddoniaeth ac ar lwyfannau Pabell y Cymdeithasau a’r Babell Lên, ac am y drydedd flwyddyn Aberystwyth yw prif noddwr Maes B, “brawd bach swyddogol yr Eisteddfod liw nos”.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol Prifysgol Aberystwyth: “Heb os nac onibai, mae’r Eisteddfod yn un o uchafbwyntiau calendr Prifysgol Aberystwyth ac yn gyfle da i dynnu sylw at yr ymchwil arloesol ddiweddaraf ac i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bobl ifanc i ehangu eu gorwelion a manteisio ar arlwy academaidd cyfrwng Cymraeg ragorol y Coleg Ger y Lli. Mae hefyd yn gyfle i adnewyddu ein cysylltiad amhrisiadwy gyda’n cyn-fyfyrwyr ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb i’r aduniad poblogaidd brynhawn dydd Mercher, cyfle euraidd i hel atgofion tra’n edrych i’r dyfodol hefyd wrth i ni baratoi i ail-agor Neuadd Pantycelyn ym mis Medi 2020. Ymunwch yn y bwrlwm, galwch draw i’n gweld, rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod ymwelwyr hen a newydd yn Llanrwst.”

Rhaglen Prifysgol Aberystwyth yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, Sir Conwy (Stondin M05):

10:00 fore Llun 5 Awst, cyfle i ddarganfod mwy am brosiect arloesol Crwydryn ExoMars gyda Dr Helen Miles o’r Adran Gyfrifiadureg ac yna am 11.30 sut mae defnyddio swigod i ddatrys problemau mathemategol.

Ddydd Mawrth 6 Awst rhwng 11:00 a 14:00 dewch i gofnodi a hel atgofion am Neuadd Pantycelyn gyda chriw yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Yna am 14:30 bydd ail gyfle i gwrdd â’r Crwydryn ExoMars gyda Dr Helen Miles.

Trosedd a’r Cyfryngau fydd pwnc y sesiwn am 11:00 fore Mercher 7 Awst a chyfle i drafod sut mae troseddau’n cael eu gor-adrodd ar y teledu, mewn print ac ar-lein. Yna, am 14:00 mae croeso mawr i bawb i’r aduniad hynod boblogaidd i gyn-fyfyrwyr yng nghwmni’r gyn-fyfyrwraig Non Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd cyfle i ddefnyddio technoleg addysg Aber-Rhithwir am 10:00 fore Iau 8 Awst ac yna am 12:00 bydd cyfle i glywed am ymchwil arloesol ym maes polisi a chynllunio iaith. Cadeirydd y sesiwn fydd darpar Bennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth Emyr Lewis, ac ar y panel bydd Dr Huw Lewis o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad dros Arfon, ac Edward Jones o Brifysgol Bangor.

Fore Gwener 9 Awst am 11:00 cynhelir cystadleuaeth cyfieithu gyda’r criw Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol â chyfle i ennill taleb Cowbois. Yna, am 12:00 bydd rhwydwaith Adfywio yn trafod rôl llywodraeth a mudiadau cymdeithas sifil ym maes polisi a chynllunio iaith yng nghwmni Rhian Huws Williams fel cadeirydd, a Dr Elin Royles, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth ac Elin Haf Gruffydd Jones, Mercator/Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Pabell Cymdeithasau 1:
Fore Gwener 9 Awst, 10:00: Fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, bydd Dr Huw Williams o Brifysgol Caerdydd yn cloriannu syniadau David Davies, sefydlydd yr adran gyntaf yn y Byd ym maes cysylltiadau rhyngwladol.

Pabell Cymdeithasau 2:
Dydd Mawrth 6 Awst am 12:30: Eurig Salisbury o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a Dr Hywel Griffiths o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn cynnal sesiwn hwyliog ar farddoniaeth ‘Llifogydd: rhwystr i feirdd ers y bymthegfed ganrif (o leiaf!)’.

Fore Mercher 7 Awst am 10:00 bydd Rhodri Evans, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth yn trafod ‘Dinoethi’r Arwisgo: Her a Phrotest wrth-Arwisgo yng Nghymru, 1969’. Yna, am 11:30 bydd panel o gyn-fyfyrwyr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn trafod datganoli yng Nghymru. Sara Gibson o BBC Cymru fydd yn cadeirio’r sesiwn, ac aelodau’r panel fydd Haf Elgar o Cyfeillion y Ddear Cymru, Dr Dafydd Trystan o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Owain Clarke o BBC Cymru, a Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth.

Ddydd Iau 8 Awst am 12:30, ‘Oni fu Pensaer Eisoes yn ein Mysg,’ darlith gan Dr Robin Chapman o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn bwrw golwg ar genedlaetholdeb Cymreig cyn 1925.

Y Babell Lên
Ddydd Mawrth 6 Awst am 16:15, bydd Dr Bleddyn Huws o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn trafod ‘Cyfrinach y Carneddi’, sef y stori y tu ôl i lun Geoff Charles o Garneddog a Chatrin yn ffarwelio â Chymru.

Prynhawnddydd Sadwrn 10 Awst am 14:25 bydd Dr Rhun Emlyn o Adran Hanes a Hanes Cymru yn darlithio ar ‘Llywelyn Fawr: Cymru, Ewrop a Llanrwst’ a’r cysylltiadau pwysig rhwng Llywelyn Fawr a Chymru (ac ardal yr Eisteddfod yn benodol) ar yr un llaw, a chyfandir Ewrop ar y llall.

Maes B
Prifysgol Aberystwyth yw noddwr Maes B. Bydd Tipi Aber ar agor rhwng 8.30 – 16:00 ddydd Mercher 7 Awst i ddydd Sadwrn 10 Awst yn cynnig pweru ffôn, gofod gorffwys, lle ymbincio, paned boreuol a llawer mwy.

Am y diweddaraf o’r stondin ar faes yr Eisteddfod, dilynwch Prifysgol Aberystwyth ar Twitter @Prifysgol_Aber a #CaruAber neu Instagram prifysgol.aberystwyth.