Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Gillian Clarke, cyn Fardd Cenedlaethol Cymru fydd un o gyfranwyr y dathliadau ym Mhrifysgol Aberystwyth

Gillian Clarke, cyn Fardd Cenedlaethol Cymru fydd un o gyfranwyr y dathliadau ym Mhrifysgol Aberystwyth

27 Chwefror 2019

Arddangosfa sy'n cynnwys ffotograffau 100 o fenywod o Gymru fydd canolbwynt dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Merched eleni ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae '100 o Fenywod Cymru', sy'n agor yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ddydd Mercher 27 Chwefror 2019, wedi ei churadu gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) Cymru.

Crëwyd yr arddangosfa i nodi canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918, a welodd fenywod yn ennill yr hawl i bleidlais am y tro cyntaf yn y DU.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched ei hun, sef Dydd Gwener 8 Mawrth 2019, bydd Prifysgol Aberystwyth a WEN Cymru yn cynnal derbyniad arbennig yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth rhwng 5.30pm a 7.30pm.

Bydd siaradwyr gwadd yn cynnwys yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, ac Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a bydd cyfle i ddarganfod mwy am wal 100 o Fenywod Cymru.

Mae tocynnau i’r digwyddiad am ddim ac ar gael ar-lein yma.

Yn gynharach yn yr wythnos, ar ddydd Mercher 6 Mawrth 2019, bydd WEN Cymru, Aberration a Phrifysgol Aberystwyth yn cynnal noson o farddoniaeth, gwleidyddiaeth a cherddoriaeth.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys darlleniadau gan gyn Fardd Cenedlaethol Cymru Gillian Clarke, a thrafodaeth panel gyda'r ymgyrchydd gwleidyddol Dinah Mulholland, Swyddog Menywod UCMC, Chisomo Phiri, a darlithydd y gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth, Megan Talbot. Darperir cerddoriaeth gan y delynores Cerys Hafana a Bright Field.

Mae tocynnau i’r noson, sy'n cael ei chynnal yn Stiwdio Berfformio Canolfan y Celfyddydau am 7:45 pm, ar gael ar-lein yma.

Dywedodd Ruth Fowler, Swyddog Cyfathrebu a Chydraddoldeb ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rwy'n falch iawn bod yr arddangosfa enwog 100 o Fenywod Cymru yn dod i Aberystwyth fel rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Mae'n wych ein bod ni'n gallu nodi’r diwrnod pwysig hwn trwy gynnal dau ddigwyddiad arbennig iawn a dod â menywod sy'n gwneud cyfraniad sylweddol at fywyd Cymreig ynghyd, gan gynnwys Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC, Chisomo Phiri NUS, a Is-Ganghellor ein Prifysgol ni, yr Athro Elizabeth Treasure.”

Bydd arddangosfa 100 o Fenywod Cymreig i’w gweld yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth o ddydd Mercher 27 Chwefror tan ddydd Sul 10 Mawrth 2019.

Mae’r arddangosfa’n cynnwys y fenyw gyntaf o Gymru i fod yn Aelod Seneddol, swffragetiaid, ymgyrchwyr yn erbyn caethwasiaeth, beirdd ac arloeswyr yn y byd meddygol, ac yn ddathliad o’u cyfraniad at fywyd Cymru.

Ymhlith alumni Prifysgol Aberystwyth sy'n ymddangos ar y wal mae Jan Morris, Dr Ceridwen Lloyd-Morgan, Luned Meredith, Rosanne Reeves, Rachel Rowlands, Deirdre Beddoe, Linda Tomos, Rachel Lomax a Tavi Murray.

Yn dilyn pleidlais gyhoeddus a oedd wedi ei seilio ar yr arddangosfa, bydd Betty Campbell, prifathro du cyntaf Cymru, yn cael ei hanfarwoli gyda cherflun parhaol yn y Sgwâr Canolog, Caerdydd.