Buddsoddiad newydd mewn Deallusrwydd Artiffisial yn Aberystwyth

Mae'r Athro Reyer Zwiggelaar yn arbenigwr sy'n arwain y byd wrth wneud ymchwil ar y rhyngwyneb rhwng Dealltwriaeth Delweddau Meddygol a Deallusrwydd Artiffisial. Fe fydd yn goruchwylio datblygiad a rheolaeth y Ganolfan Hyfforddi Doethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae'r Athro Reyer Zwiggelaar yn arbenigwr sy'n arwain y byd wrth wneud ymchwil ar y rhyngwyneb rhwng Dealltwriaeth Delweddau Meddygol a Deallusrwydd Artiffisial. Fe fydd yn goruchwylio datblygiad a rheolaeth y Ganolfan Hyfforddi Doethurol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

21 Chwefror 2019

Mae un ar ddeg o leoedd PhD newydd yn cael eu creu ym Mhrifysgol Aberystwyth fel rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth y DU i ddatblygu ymchwil pellach ym maes deallusrwydd artiffisial.

Cyhoeddodd corff Ymchwil ac Arloesedd y DU ddydd Iau 21 Chwefror 2019 eu bod yn buddsoddi £100m i yrru technoleg deallusrwydd artiffisial o safbwynt gwella gofal iechyd, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, a chreu cyfleoedd masnachol newydd.

Bydd y buddsoddiad yn arwain at greu 16 o Ganolfannau Hyfforddi Doethurol newydd mewn 14 o brifysgolion ledled y DU, gan weithio gyda 300 o bartneriaid gwahanol megis AstraZeneca, Google a Rolls-Royce yn ogystal ag ymddiriedolaethau'r GIG.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o gonsortiwm ar gyfer Cymru a De Orllewin Lloegr a fydd yn hyfforddi cyfanswm o 55 o ymchwilwyr doethuriaeth, mewn pum carfan o 11 o fyfyrwyr.

Dan arweiniad Prifysgol Abertawe, mae'r consortiwm hefyd yn cynnwys prifysgolion Bangor, Caerdydd a Bryste yn ogystal ag Uwchgyfrifiadura Cymru.

Dywedodd yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesedd ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae Prifysgol Aberystwyth yn flaenllaw ym maes technoleg deallusrwydd artiffisial, gan gynnwys gofal iechyd lle rydym yn datblygu peiriannau i ddadansoddi delweddau megis mamogramau a chanfod abnormaleddau mewn cyfnod cynharach. Gan weithio gyda'n partneriaid yn y consortiwm, byddwn yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr dysgu peiriannau gyda’r gallu i drosglwyddo’u gwybodaeth i feysydd cymhwyso gwahanol."

Bydd yr Athro Reyer Zwiggelaar, o Adran Cyfrifiadureg y Brifysgol a Phennaeth Ysgol y Graddedigion, yn goruchwylio datblygiad a rheolaeth y Ganolfan Hyfforddi Doethurol yn Aberystwyth: "Byddwn yn hyfforddi ac yn cefnogi ein hymchwilwyr doethuriaeth i ddatblygu’n unigolion galluog iawn gyda’r sgiliau deallusrwydd artiffisial a chyfrifiadurol o’r radd flaenaf sydd eu hangen ar ddiwydiant yn ogystal â sgiliau technegol a throsglwyddadwy. Caiff eu hyfforddiant ei atgyfnerthu gan ymchwil blaengar ar draws y consortiwm mewn meysydd gwyddonol, meddygol a chyfrifiadol amlddisgyblaeth."

Dywedodd Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth y DU, Greg Clark: "Mae'r DU wedi bod yn genedl o arloeswyr ers amser maith a bydd y pecyn heddiw o fuddsoddi mewn sgiliau a thalent deallusrwydd artiffisial yn helpu i feithrin talent flaenllaw yn y DU ac yn rhyngwladol i sicrhau ein bod yn cadw ein henw da o arwain y byd ym maes ymchwil a datblygu. Mae gan ddeallusrwydd artiffisial botensial mawr i gynyddu cynhyrchiant a gwella pob diwydiant ar draws ein heconomi, o ddiagnosis clefydau mwy effeithiol i adeiladu cartrefi smart. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dangos ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern ar waith gan fuddsoddi mewn sgiliau a thalent i yrru swyddi sgiliau uwch, tyfiant a chynhyrchiant ledled y DU."

Dywedodd Prif Weithredwr Ymchwil ac Arloesi y DU, yr Athro Syr Mark Walport: "Mae deallusrwydd artiffisial yn dechnoleg aflonyddgar mewn ystod o sectorau, gan arwain at greu cynnyrch a gwasanaethau newydd, ac yn trawsnewid gwyddoniaeth data. Mae'n ein galluogi i ddatblygu ymagweddau newydd at heriau mor amrywiol â diagnosis cynnar o glefydau a newid yn yr hinsawdd. Er mwyn cynnal ei lle ar flaen cad deallusrwydd artiffisial, bydd angen cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr, arweinwyr busnes ac entrepreneuriaid sydd â sgiliau newydd ar y DU. Gan weithio gyda phartneriaid ar draws y byd academaidd a diwydiant, bydd y canolfannau a gyhoeddwyd heddiw yn darparu'r seiliau ar gyfer yr arweinwyr hyn yn y dyfodol."

Bydd y graddau PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth yn bedair mlynedd, ac yn cynnwys ymgysylltu a gweithio gyda phartneriaid allanol.